Cerydd i athro ysgol o Sir Gâr am yfed a gyrru

Mae athro o Sir Gâr wedi derbyn cerydd gan banel proffesiynol ar ôl cael ei ddal yn yfed a gyrru.
Roedd Huw Davies yn athro yn ysgol Bro Teifi yng Ngheredigion pan gafodd ei arestio yng Ngorffennaf 2021 ond roedd eisoes wedi cytuno i adael ar 31 Awst 2021.
Roedd Mr Davies hefyd wedi bod yn athro cyflenwi yn Ysgol Uwchradd Queen Elizabeth yng Nghaerfyrddin.
Cafodd ei arestio mewn maes parcio archfarchnad yng Nghaerfyrddin ar ôl cael ei weld yn gyrru’n “afreolus”.
Dywedodd wrth y panel ei fod yn derbyn cymorth gan Alcoholics Anonymous ac oherwydd rhesymau meddygol nad oedd wedi dychwelyd i yrru.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Facebook