Peilot yn cael ei arestio ar ôl bygwth dymchwel awyren yn yr UDA

Mae peilot wedi ei arestio yn Tupelo yn nhalaith Mississippi, UDA ar ôl iddo fygwth dymchwel yr awyren i mewn i archfarchnad.
Cafodd Cory Wayne Patterson ei arestio a’i gyhuddo o ddwyn yr awyren ac o wneud bygythiadau terfysgol.
Roedd wedi hedfan yr awyren am oriau uwchben y ddinas cyn iddo lanio yn dilyn trafodaethau ar y radio gyda’r heddlu.
Bu'n rhaid i'r heddlu symud cannoedd o bobl o'r siopau a gofyn i bobl i osgoi’r ardal.
Dywedodd llywodraethwr y dalaith Tate Reeves nad oedd unrhyw un wedi ei anafu ac fe ddiolchodd i’r heddlu.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter