Cyn-bennaeth addysg dros Neil Foden yn gweithio i gwmni adnoddau dynol

Garem Jackson

Mae cyn-bennaeth addysg Cyngor Gwynedd oedd yn rheolwr ar y pedoffeil Neil Foden bellach yn gweithio i gwmni adnoddau dynol newydd. 

Roedd Garem Jackson yn bennaeth addysg ar y cyngor rhwng 2017 a 2023, cyn iddo ymddiswyddo'r flwyddyn honno "oherwydd rhesymau personol".

Cafodd y cyn-bennaeth ysgol Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl i reithgor ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Clywodd achos llys Neil Foden nad oedd Mr Jackson wedi cadw cofnodion o sgyrsiau allweddol roedd wedi eu cael gyda'r pennaeth pan oedd yn rhedeg yr adran addysg.

Nid oes unrhyw awgrym fod Mr Jackson yn ymwybodol o droseddu Mr Foden pan oedd yn gweithio i'r cyngor.

Cwmni newydd

Ar broffil LinkedIn Garem Jackson, mae'n nodi ei fod yn gweithio i gwmni Addewid, sef cwmni adnoddau dynol newydd sydd yn "gwneud Cymru'n lle saff i weithio". 

Cafodd y cwmni ei sefydlu ym mis Mai y llynedd, ac mae wedi ei leoli yng Nghaernarfon.

Mae'r cwmni yn nodi ar eu proffil LinkedIn eu bod yn "ymfalchïo yn ein bod yn gwmni moesegol gydag egwyddorion proffesiynol cryf y mae eu gwerthoedd yn seiliedig ar onestrwydd, eglurder, a didueddrwydd. 

"Credwn y bydd gweithlu amrywiol ac iach, ac un sy'n teimlo'n ddiogel, yn dod â manteision helaeth i sefydliadau."

Mae cyfrifon diweddaraf cwmni Addewid Cyf yn dangos fod y cwmni wedi cael ei sefydlu ar 28 Mai 2025, ac mai'r cyfarwyddwr a'r sylfaenydd ydi Dr Diane Pritchard-Jones. 

Profiad

Roedd gwefan y cwmni yn nodi fod gan Dr Pritchard-Jones "dros ddau ddegawd o brofiad ym myd addysg".

Roedd llun o Mr Jackson ar wefan Addewid hefyd yn ymddangos ar-lein, ond mae'r wefan bellach wedi ei thynnu i lawr. 

Roedd y wefan yn cyfeirio ato fel "arweinydd llwyddiannus ac ysbrydoledig, mae gan Garem flynyddoedd lawer o brofiad o arwain prosiectau a thimau trawsnewidiol ar raddfa fawr o dan ei reolaeth...".

Ychwanega'r wefan: "Mae ganddo brofiad o frwydro am gyfiawnder drwy ymgyfreitha ac mae ei brofiad personol ei hun o 'cancel culture' yn dod â dealltwriaeth unigryw o sut i lywio a goroesi argyfwng..."

Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu gyda chwmni Addewid a Mr Jackson am ymateb.

Adroddiad damniol

Y llynedd, daeth adroddiad am fethiannau yn achos Neil Foden i'r casgliad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli gan asiantaethau o fis Ionawr 2017 tan 6 Medi 2023, sef y diwrnod y cafodd Foden ei arestio. 

Roedd Neil Foden yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.

Wrth ymateb ar y pryd i'r adroddiad, fe ddywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys, bod yr achos yn un "ysgytwol" a'i bod hi wedi ei "ffieiddio" gan fanylion yr adroddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.