Amddiffyn gwario £2m ychwanegol ar adnewyddu hen siop Debenhams Caerfyrddin

Newyddion S4C

Amddiffyn gwario £2m ychwanegol ar adnewyddu hen siop Debenhams Caerfyrddin

Mae aelod o gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi amddiffyn y penderfyniad i wario £2m ychwanegol ar gynllun i adnewyddu hen siop Debenhams yng Nghaerfyrddin oherwydd problemau gyda'r adeilad.

Mae'r cynllun i drawsnewid y siop i fod yn ganolfan iechyd a llesiant yn costio tua £40m.

Fe fydd yna gampfa newydd yn hen adeilad Debenhams, lle chwarae i blant, rhai o wasanaethau'r cyngor a nifer o glinigau iechyd Hywel Dda.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny, sydd yn gyfrifol am gyllid, fe gododd problemau yn ystod y gwaith atgyweirio nad oedd modd eu rhagweld cyn i'r cynllun adnewyddu ddechrau.

Fe gaeodd siop Debenhams yng Nghaerfyrddin yn 2021 pan aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr.

Roedd yn gonglfaen i ddatblygiad canolfan siopa Rhodfa Santes Catrin wnaeth agor yn 2010 yn sgil buddsoddiad o £74m.

Yn 2024, dechreuodd y gwaith adeiladu er mwyn addasu'r hen siop i fod yn ganolfan iechyd a lleisant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu tua £7m, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi £15m tuag at y cynllun i drawsnewid 8000 metr sgwâr o ofod masnachol.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd y problemau sydd wedi codi gyda'r adeilad yn golygu na fydd y ganolfan yn agor tan 2027, er ei fod i agor eleni.

Yr Atriwm sydd wedi ei ddewis fel enw newydd y ganolfan iechyd a llesiant y dref, ac mae'n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Fe fydd campfa 24 awr, golff antur dan do, canolfan chwarae i blant, gwasanaethau'r cyngor a nifer o glinigau Hywel Dda i gyd o dan yr un tô.

Mae'r enw "Atriwm" wedi ei ddewis i adlewyrchu gwreiddiau Rhufeinig Caerfyrddin.

Deallir bod angen gwneud newidiadau i ffasâd yr adeilad yn sgil y problemau sydd wedi codi, a dyna sydd yn gyfrifol am y gwariant ariannol ychwanegol.

Image
Yr Atriwm
Yr Atriwm a oedd yn siop Debenhams

'Werth e'

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny bod e'n "fuddsoddiad anferth, gwerth ei wneud" i dref Caerfyrddin gan y bydd 250 o bobl yn gweithio yn y ganolfan.

Gwadodd y bydd trethdalwyr y sir yn gorfod talu am y costau ychwanegol.

"Bydd e yn fuddsoddiad fydd yn denu llawer o bobl i ganol y dref," meddai.

"Bydd 250 yn gweithio yn y ganolfan. Nid arian trethdalwyr, treth y cyngor yw e, mae'n dod o gronfa cyfalaf y cyngor sir. 

"Arian cyfalaf yw hwn nid arian sydd yn dod o godiad treth y cyngor. Buddsoddi i ni ar gyfer dyfodol y dref."

Dywedodd nad oedd modd rhagweld y problemau, cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

"Wrth gwrs fe wnaethpwyd astudiaeth fanwl o'r adeilad," meddai.

"D'wi ddim yn beiriannydd adeiladu, galla i ddim a dweud yn fanwl pam mae e wedi codi, ond fe gododd e yn ystod y gwaith addasu sydd yn digwydd yma, rhywbeth na allai ddod i'r golwg yn gynharach. 

"Buddsoddiad er budd pobl Caerfyrddin yw e."

Roedd y Cynghorydd Lenny yn cyfaddef ei bod hi'n "siomedig, wrth reswm" y bydd yna oedi gyda'r cynllun.

"Mae'n dal i fod yn fuddsoddiad pwysig, allweddol ar adeg pan mae gymaint o drefi yn marw ar eu traed," meddai.

"Mae Caerfyrddin, diolch i'r drefn, yn ddigon llewyrchus, ond bydd hwn yn mynd â ni lan un lefel eto.

"D'wi'n gwybod y bydd pobl yn gweld bod hwn yn beth rhyfedd i wneud, i rhoi dwy filiwn ychwanegol ond mae'n mynd i fod yn fath gaffaeliad, a'r fath adnoddau yng nghanol tref Caerfyrddin. 

"Mae'n sicr yn mynd i fod yn werth e. Pan fydd e yn agor mewn blwyddyn, fe fydd pobl, rwy'n hyderus, yn gweld hynny hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.