'Angen profion dementia ar gleifion sydd yn dymuno marw â chymorth'

Tanni Grey-Thompson

Fe ddylai cleifion dderbyn asesiad am ddementia cyn eu bod yn gymwys i wneud penderfyniad dros ddod a’u bywydau i ben â chymorth meddygol, yn ôl y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Mewn trafodaeth ar Fil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Gwener, dywedodd yr aelod annibynnol o Gaerdydd ei fod yn “angenrheidiol” bod cleifion â’r gallu i wneud penderfyniadau priodol dros eu hunain.

Fe wnaeth y cyn Bencampwr Paralympaidd alw am ychwanegu asesiad at y bil dadleuol, gan rybuddio bod “canran sylweddol” o bobl â dementia yn mynd heb gael diagnosis am amser hir.

Dywedodd y Farwnes Grey-Thompson: “Os nad yw un o bob tri pherson â dementia byth yn cael diagnosis, yna gallai un o bob tri ymgeisydd posibl o dan y Bil hwn fod â nam ar eu gallu i wneud penderfyniadau."

Cafodd ei galwad ei gefnogi gan y Farwnes Nuala O’Loan, a ddywedodd y dylai’r asesiad gael ei gynnal o fewn y tri mis cyn y byddai claf yn gwneud cais am farwolaeth â chymorth.

Dywedodd: “Mae llawer ohonom, yn anffodus, wedi gweld pobl rydym yn eu hadnabod a’u caru mewn cartrefi gofal, ac mae ein profiad wedi dangos eu bod yn dioddef o ddementia nad yw wedi’i adnabod.

“Gall gymryd amser i gael diagnosis, yn enwedig pan fo unigolyn â dementia yn dal i ddeall y cwestiynau a ofynnir iddo a sut i’w hateb, er nad yw’n cofio a gafodd ymwelydd y diwrnod hwnnw, nac yn deall pam bod angen iddo weld meddyg.”

Gwrthwynebiad

Dywedodd yr Arglwydd Falconer o Thoroton, cyn-weinidog Llafur a noddwr y Bil yn Nhŷ Arglwyddi, ei fod yn gwrthwynebu’r cynnig y dylid ychwanegu prawf yn “gryf”, gan ddadlau bod mesurau diogelu eisoes yn y Bil.

Ychwanegodd: “Pwrpas yr holl gamau – y ddau feddyg a’r panel – yw gwirio: a oes gennych y gallu? Ai eich dymuniad chi yw hyn?

“Os oes gennych y gallu, ac os mai dyma’ch dymuniad, yna dylech fod â hawl i farwolaeth â chymorth.”

Fe wnaeth y Farwnes Finlay o Landaf, athro meddygaeth lliniarol, hefyd alw am sefydlu gwasanaeth annibynnol a fyddai’n cynnig “gwybodaeth annibynnol” i’r rheiny sy’n ceisio marwolaeth â chymorth.

“Rhaid i gleifion allu cael mynediad at yr holl fanylion sydd eu hangen arnynt ynghylch marwolaeth â chymorth o ffynhonnell nad yw’n rhan o’u prif ofal – sef eu meddyg," meddai.

“Mae cael dewisiadau a ffynonellau gwybodaeth annibynnol am farwolaeth yn rhoi mwy o le i gleifion ddeall eu dewis, ac ar y cyflymder sydd ei angen arnynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.