Carchar am oes i ddyn o Sir Benfro am dreisio babi
Rhybudd: Gall yr erthygl yma beri gofid.
Mae dyn o Sir Benfro wedi cael ei garcharu am oes am dreisio ac achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i fabi.
Cafwyd Christopher Phillips yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Clywodd y llys fod Phillips wedi cwrdd â mam y plentyn ar yr ap Tinder yn 2020 a chyfarfod â'r babi pan oedd yn fis oed yn unig.
Dywedodd Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad fod anafiadau'r babi yn rhai "trychinebus" a’i fod wedi gorfod cael morffin i ladd y boen, rhywbeth anarferol iawn i fabi.
Roedd y babi rhwng saith ac wyth wythnos oed pan gafodd anafiadau a oedd yn cynnwys gwaedu ar yr ymennydd ac asennau wedi torri, clywodd y llys.
Dywedodd y barnwr, Paul Thomas KC, wrth ddedfrydu Phillips mai dyma'r “achos mwyaf trallodus fy ngyrfa 40 mlynedd o hyd”.
Dedfrydwyd Phillips i garchar am oes a rhaid iddo dreulio o leiaf 16 mlynedd a 25 diwrnod dan glo.
Ond rhybuddiodd y barnwr y gallai dreulio gweddill ei oes yn y carchar gan ei ddisgrifio "fel perygl i blant".

