Tri o bobl wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad ger Y Bala
03/09/2022
Mae tri o bobl wedi eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd y B4391 ger Y Bala ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r gwrthdrawiad yn ymwneud â dau gerbyd ger Rhosygwaliau wrth ymyl Llyn Tegid am tua 14.00.
Dywedodd yr heddlu y bu'n rhaid torri un person yn rhydd a bu'r fforrdd ar gau am rai oriau.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod tri o bobl wedi eu hanafu a’u cludo i’r ysbyty.
Llun: Google