Newyddion S4C

Y Cymro o Awstralia sy’n cynrychioli Cymru

Newyddion S4C 03/09/2022

Y Cymro o Awstralia sy’n cynrychioli Cymru

 Wedi ei eni a’i fagu yn Fremantle yng ngorllewin Awstralia efallai na fyddech chi’n disgwyl i Gethin Thomas gynrychioli Cymru.

 Hynny yw tan iddo ddechrau sgwrsio â chi yn y Gymraeg. 

 "Mae teulu i gyd ar ochr Dad yn dod o Benrhyndeudraeth, ac ers o'n i'n fabi bach doedd Dad ond yn siarad â fi yn Gymraeg,” eglurai.

 Bu’r chwaraewr rygbi 19 oed yn siarad â Newyddion S4C cyn i dîm Dan 19 Rygbi’r Gynghrair Cymru deithio i’r Eidal ar gyfer y Bencampwriaeth Ewropeaidd.

 Tra bod ei Dad Alan o Gymru, mae ei fam Elaine yn wreiddiol o Loegr, ond dros 9,000 o filltiroedd o Gymru Cymraeg yw iaith yr aelwyd i Gethin a’i frodyr Cai, Emrys a Bleddyn.

 Dywedodd Gethin: "Ers yn hogyn bach dwi byth yn cael fy ffordd efo siarad Saesneg.

 "Bob tro dwi'n neud camgymeriad mae Dad yn deud "Gethin siarad Cymraeg", a dros amser mae o'n mireinio fy iaith. 

 "Mae'n dod yn naturiol i fi. Mae'n iaith ffantastig. Dwi'n falch iawn mod i'n siarad yr iaith, ac mae gennyf bob bwriad i gario ymlaen pan fydda i'n oedolyn.”

 Tra’n hyfforddi gyda Chymru yng Nghaerdydd mae hefyd wedi cael cyfle i ymweld â’i deulu yn y gogledd, ac  mae pawb yn ymfalchïo yn ei lwyddiant.

 Ychwanegodd Gethin: “Pryd ddaru fi ddeud wrth Anti Donna mod i wedi cael fy newis i chwarae i Gymru ddaru hi grio, ddaru yncl Steve trio pridio crio, ond ma' nhw'n gwybod faint rydw i'n adnabod fy hun fel Cymro.

 “Y peth mwyaf ydy i Dad, ddaru fo chwarae pêl-droed i Gymru dan 18, i fo mae'n beth da i weld i blant  yn dilyn ei ôl troed, a dwi'n falch o hynny.”

 Serbia oedd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ddydd Sadwrn yn y gemau byr ac roedd yn ddechrau perffaith i Thomas wrth iddo groesi am gais cynnar.

 Ar ôl ennill y gêm honno aeth Cymru ymlaen i guro’r Eidal, Iwerddon ac Wcrain, cyn dod o fewn trwch blewyn i guro’r pencampwyr diwethaf Ffrainc a cholli yn erbyn Lloegr.

 Bydd y tîm nawr yn mynd ymlaen i’r rownd gyn derfynol ddydd Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.