Cwpan y Byd: Qatar i ganiatáu gwerthu cwrw cyn ac ar ôl gemau

Fe fydd Qatar yn caniatáu i gefnogwyr gyda thocynnau i brynu cwrw cyn gemau yng Nghwpan y Byd yn hwyrach yn y flwyddyn.
Yn ôl adroddiadau bydd modd i gefnogwyr brynu cwrw deirawr cyn gemau ac awr ar ôl y chwiban olaf ond nid yn ystod gemau.
Dyma gystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf i gael ei chynnal mewn gwlad Fwslimaidd ac mae gan Qatar rheolau llym ar alcohol.
Fe fydd cwrw ar gael i gefnogwyr o fewn ardaloedd arbennig iddyn nhw y tu allan i’r stadiwm.
Darllenwch fwy yma.
Llun: stadiumguide