Olivia Pratt-Korbel: Heddlu’n rhyddhau lluniau newydd o ddyn a ‘welwyd yn yr ardal’

Mae Heddlu Glannau Mersi wedi rhyddhau lluniau newydd o ddyn “a welwyd yn yr ardal” ar yr adeg pan lofruddiwyd y ferch naw oed.
Bu farw Olivia ar ôl cael ei saethu yn ei chartref wedi i ddyn redeg i mewn drwy'r drws tra'n rhedeg ar ôl dyn arall.
Cafodd mam Olivia, Cheryl Korbel, a dyn arall eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Cafodd delwedd o Olivia ei dangos ar y sgrîn fawr ym Mharc Goodison yn y gêm dderbi rhwng Everton a Lerpwl ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth y dorf ddangos cymeradwyaeth naw munud i mewn i’r gêm er cof amdani.
Mae dau ddyn o Lerpwl oedd wedi eu arestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ond yn parhau dan ymchwiliad yr heddlu.
Enough Is Enough.
— Everton Fans' Forum (@EFC_FansForum) September 2, 2022
Our City In Unity. 💙❤️ pic.twitter.com/8jc66H3KIA
Darllenwch fwy yma.