Newyddion S4C

Anrhydeddu Edward Morus Jones mewn gŵyl yn yr Unol Daleithiau

04/09/2022
Edward

Mae Edward Morus Jones wedi ennill tlws anrhydedus yng Ngŵyl Cymru Gogledd America. 

Edward ydy enillydd y Tlws Treftadaeth yn yr ŵyl eleni, sef anrhydedd uchaf y sefydliad, ac mae'r ŵyl yn nodi ei fod yn "cael ei adnabod yn rhyngwladol fel Americanwr Cymreig rhagorol."

Yn wreiddiol o Lanuwchlyn, aeth Edward ymlaen i fod yn athro ac yn brifathro yn Ysgol Llandegfan am 18 mlynedd, ac mae wedi cyfansoddi amryw o ganeuon a sioeau cerdd i blant a phobl ifanc megis Cwm-Rhyd-Y-Rhosyn.  

Mae Edward wedi cyfrannu yn helaeth i ddiwylliant Cymreig yn America ers degawdau, gan gynnwys pan aeth gyda'i ddiweddar wraig, Gwyneth, i gymryd rhan yn Wythnos Treftadaeth Cymru lle'r oedden nhw yn diwtoriaid iaith ac arweinwyr canu. 

Hyd yma, mae wedi mynychu a chyfrannu mewn deg o wyliau Cymru Gogledd America, gan gynnwys beirniadu mewn Eisteddfodau a darlithio. 

Erbyn heddiw, mae Edward yn briod gyda Mary, ac mae Mary yn frodorol o Philadelphia lle mae'r ŵyl yn cael ei chynnal eleni. 

'Pwysig ein bod ni'n edrych allan'

Mae hefyd yn un o arweinwyr Undeb y Cymry a'r Byd, sef sefydliad i sicrhau bod Cymry ar hyd a lled y byd yn cadw mewn cysylltiad tra'n hyrwyddo'r Gymraeg. 

"Dwi'n teimlo yng Nghymru, ma'n bwysig ein bod ni'n edrych allan bob hyn a hyn a bod pobl yn ein gweld ni, boed o mewn Cwpan y Byd neu o ran gwaith diwylliannol," meddai.

Sefydlwyd Sefydliad Cenedlaethol Cymru America yn 1980 gan Gymry Americanaidd er mwyn hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Gogledd America. 

Ers 1987, mae'r Sefydliad yn anrhydeddu unigolion neu gymdeithasau sydd wedi cyflawni gweithredoedd arbennig Cymreig yng Ngogledd America drwy roi Tlws Treftadaeth.

Fel arfer, person yn frodorol o Ogledd America sy'n derbyn yr anrhydedd, "ond digwydd bod eleni, dwi mewn cwmni o ryw ddyrned fach o bobl sydd wedi derbyn yr anrhydedd o Gymru yn wreiddiol," meddai Edward. 

Ychwanegodd mai "prin ydy'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud â diwylliant a bywyd bob dydd o Gymru, a dwi'n teimlo'n freintiedig i fod yn un ohonyn nhw."

Dywedodd Edward bod yr ŵyl yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol, sydd yn hwb ariannol yn ogystal ag yn ffordd i hyrwyddo Cymreictod ar draws y byd. 

"Mae hi'n ŵyl fawr, cannoedd yma o'r Unol Dalieithiau, o Ganada ac o Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi a Maer Philadelphia a fel rhan ohoni, dwi mor ffodus o fod yn cael y tlws yma."

'Braint fawr'

Mae derbyn y tlws hwn wedi bod yn anrhydedd mawr i Edward.

"Ma'cal unrhyw anrhydedd yn fraint, ond 'di rywun ddim yn gwneud dim byd o'r petha' 'ma er mwyn cael unrhyw anrhydedd, ond yn sicr, mae hi'n fraint fawr.

"Un neu dda ohonom ni sydd 'di ei chael hi o Gymru dros y ddeugain mlynedd ddiwethaf - ma'r lleill i gyd yn bobl amlwg iawn o fywyd busnes a threftadaeth gyffredinol a diwyliant Gogledd America felly dwi'n cyfri fy hun yn ffodus iawn."

Mae'r ŵyl yn mynd o nerth i nerth, ac mae ei lleoliad hi eleni, sef Philadelphia, hefyd yn hwb i'r cyhoeddusrwydd. 

"Yma, 'leni, ma' 'na griwie ffilmio a chan bo' ni yn Philadelphia, ma' hi'n cael sylw mawr a ma' na gymaint, cannoedd, miloedd, o gysylltiade sy'n mynd yn bellach wrth gwrs erbyn hyn â Chymru yma yn Philadelphia," meddai Edward.

"Ond ma' 'na bobl yn dod o bob man i ddathlu yr ŵyl ac mi fydd na Gymanfa Ganu a darlithoedd bob dydd a rhai amlwg iawn o Gymru yma ac felly mae hi'n ŵyl sylweddol iawn i ddweud y gwir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.