Newyddion S4C

Rwsia i gadw pibell nwy i Ewrop ar gau

Sky News 03/09/2022
Gazprom (Pixabay)

Ni fydd y bibell nwy o Rwsia i’r Almaen yn agor yn ôl y disgwyl ddydd Sadwrn yn ôl cwmni egni gwladol Gazprom.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi dod o hyd i ollyngiad mewn tyrbin ym mhibell Nord Stream 1 sy’n golygu y gallai fod ar gau am gyfnod amhenodol.

Mae’r bibell wedi bod ar gau ers tridiau ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn ôl Gazprom.

Mae Ewrop yn ceisio defnyddio llai o danwydd o Rwsia er mwyn lleihau gallu Rwsia i ariannu’r rhyfel yn Wcráin.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.