Newyddion S4C

Canslo lansio roced Artemis unwaith eto

03/09/2022
S4C

Mae asiantaeth ofod NASA wedi canslo lansio roced Artemis am yr eildro ddydd Sadwrn.

Roedd NASA yn paratoi i gynnig eto i lansio roced Artemis am daith o amgylch y lleuad ond fe ddaeth gollyngiad o danc hydrogen i’r amlwg yn ystod y dydd.

Roedd peirianwyr wedi bod yn ceisio trwsio’r nam ond heb lwyddo.

Bu’n rhaid gohirio ymgais ddydd Llun oherwydd problem gydag un o injans y roced.

Pwrpas y daith yw gosod sylfaen er mwyn anfon gofodwyr i’r lleuad am y tro cyntaf mewn 50 mlynedd.

Fe fydd Artemis 1 yn anfon capsiwl o’r enw Orion o amgylch y lleuad.

Roedd gan yr ymgais ddydd Sadwrn ffenestr i lansio o ganolfan Kennedy yn nhalaith Florida yn yr UDA yn cychwyn am 19.17 nos Sadwrn.

Y cyfle nesaf i lansio fydd yn ystod prynhawn dydd Mawrth.

Llun: NASA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.