Cyffro cefnogwyr reslo wrth i ornest WWE ddod i Gaerdydd
Cyffro cefnogwyr reslo wrth i ornest WWE ddod i Gaerdydd
Mae cefnogwyr reslo Cymreig ar ben eu digon wrth i rai o sêr y WWE ddod i Gaerdydd ar gyfer sioe enfawr yn Stadiwm y Principality.
Dyma'r tro cyntaf ers yr 1990au i ddigwyddiad mawr WWE ddod i'r DU, gan ddod a rhai o enwau mwyaf y byd reslo i Gymru ar gyfer 'Clash yn y Castell.'
Fe fydd y digwyddiad yng Nghaerdydd yn cynnwys gornestau rhwng rhai o enwau mwyaf y byd reslo gan gynnwys Drew McIntyre, Roman Reigns a Liv Morgan.
Bydd y sioe yn wledd i unrhyw gefnogwyr reslo yng Nghymru, gyda disgwyl y bydd dros 60,000 o bobl yn heidio i'r brifddinas ar gyfer y sioe.
Yn eu plith bydd Ffion Awen o Lanberis, sydd wedi bod yn gefnogwr brwd o reslo ers iddi fod yn ifanc.
Wrth i Ffion wneud y daith i lawr i Gaerdydd ddydd Sadwrn, mae hi'n credu bod Stadiwm y Principality yn lle delfrydol ar gyfer digwyddiad WWE.
"Wrth gwrs dwi mynd i ddweud bod nhw wedi dewis y lle perffaith er mwyn cael y pay per view cynta ym Mhrydain ers y 90au," meddai.
"Faint o cwl mae o'n swnio; 'Clash in the Caslte.'"
"Mae gen ti ddraig mawr coch ar y poster, mae gen ti gastell, mae gen ti gleddyf, maen nhw di dewis y lle perffaith.
"Mae pobl yn mynd i fod dod draw o ar draws y byd i weld y pay per view yma a bendant mae nhw wedi dewis y lle gorau ar ei gyfer."