Oedi profion asymptomatig Covid-19 mewn lleoliadau iechyd a gofal
Fe fydd profion asymptomatig ar gyfer Covid-19 mewn lleoliadau iechyd a gofal, ac mewn ysgolion arbennig yn cael eu hoedi am y tro.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, fod y data yn parhau i ddangos bod achosion o Covid-19 mewn cymunedau ac ysbytai yn gostwng yn dilyn y don ddiweddar o amrywiolyn Omicron.
O 8 Medi ymlaen, ni fydd darpariaeth o brofion asymptomatig rheolaidd i staff y GIG, lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys cartrefi gofal a gwasanaethau hosbis ac ysgolion arbennig.
Bydd profion asymptomatig i ymwelwyr mewn chartrefi gofal, ymwelwyr â’r rhai sy’n gymwys i gael triniaethau Covid-19, a charcharorion wrth iddynt gael eu derbyn i’r carchar hefyd yn cael eu hoedi.
Brechiad atgyfnerthu
Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd Eluned Morgan: "Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd, ac rydym newydd ddechrau cyflwyno brechiad atgyfnerthu yr hydref yn erbyn COVID-19. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn mis Rhagfyr a byddwn yn annog pawb i fanteisio ar y cynnig hwn.
"Wrth inni symud i’r hydref a’r gaeaf, pan ddaw feirysau anadlol yn fwy cyffredin, gallwn gadw ein gilydd yn ddiogel drwy ddilyn camau syml, fel golchi dwylo’n aml, aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill os oes gennym symptomau, a gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau gofal iechyd a mannau gorlawn dan do.
"Ar sail y cyngor clinigol diweddaraf sydd ar gael am fanteision profion asymptomatig pan fo cyffredinrwydd y coronafeirws yn is, o 8 Medi ymlaen byddwn yn gwneud newidiadau i’n trefniadau profi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol."
Ychwanegodd y gweinidog y byddai'r llywodraeth yn parhau i ddarparu profion symptomatig i gleifion, pobl sy’n gymwys i gael triniaethau Covid-19, staff iechyd a gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal a charcharorion.
Byddai'r gwaith yn parhau hefyd o ddarparu profion i’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal.