Rwsia'n atal cyflenwad nwy ar ôl i gap ar bris olew y wlad gael ei gyflwyno
Mae arweinwyr gwledydd y G7 wedi cyhoeddi eu bwriad i gyflwyno cap ar bris olew a phetrol o Rwsia.
Cafodd y cap ei gyhoeddi mewn ymdrech i ffrwyno economi'r wlad a chwtogi ar elw Moscow o'r diwydiant olew - olew sydd yn cyfrannu at dalu am y rhyfel yn Wcráin.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Rwsia nos Wener na fyddai nwy yn cael ei drosglwyddo i orllewin Ewrop ar hyd pibell nwy Nord Stream 1 gan fod problem dechnegol wedi ei darganfod yn ystod archwiliad.
Ni chafodd amserlen ei gosod gan gwmni Gazprom yn egluro pa bryd y byddai'r bibell yn gweithio eto.
Mewn cynhadledd rithiol yn Elmau yn yr Almaen ddydd Gwener, cyhoeddodd gweinidogion cyllid y G7 y bydd y cap yn cael ei gyflwyno, ond ni chafodd pris y cap, fyddai'n uchafswm barel o olew o Rwsia, ei gyhoeddi.
Mae gwledydd Prydain, Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Siapan a'r UDA oll yn aelodau o'r G7.
Bwriad y gwledydd wrth gyhoeddi'r newyddion oedd parhau i fasnachu mewn olew neu betrol o Rwsia dim ond os fyddai'r pris yn is na'r cap arbennig sydd am gael ei osod.
Y gobaith drwy wneud hyn fyddai galluogi masnachu olew o Rwsia i barhau, ond cyfyngu ar elw unrhyw werthiant er mwyn dylanwadu ar economi'r wlad.
Mewn datganiad, dywedodd gweinidogion cyllid y G7: "Heddiw rydym yn cadarnhau ein bwriad gwleidyddol ar y cyd i gwblhau a gweithredu gwaharddiad cynhwysfawr ar wasanaethau sy'n galluogi cludo olew crai a chynhyrchion petrolewm o darddiad Rwsiaidd yn fyd-eang ar y môr - ni chaniateir darparu gwasanaethau o'r fath oni bai bod yr olew a'r cynhyrchion petrolewm yn cael eu prynu yn neu yn is na phris (“y cap pris”) a bennir gan y glymblaid eang o wledydd sy'n cadw at y cap pris ac yn ei weithredu.
"Mae’r cap prisiau wedi’i gynllunio’n benodol i leihau refeniw Rwsia a gallu Rwsia i ariannu ei rhyfel ymosodol tra’n cyfyngu ar effaith rhyfel Rwsia ar brisiau ynni byd-eang, yn enwedig ar gyfer gwledydd incwm isel a chanolig, trwy ganiatáu i ddarparwyr gwasanaeth barhau i wneud busnes sy'n ymwneud ag olew Rwsiaidd a chynhyrchion petrolewm a werthir am neu islaw'r cap pris."
Er bod allforion olew o Rwsia wedi gostwng ym mis Mehefin, fe wnaeth y wlad elw uwch am y cynnyrch am fod pris olew wedi cynyddu o ganlyniad i'r gwrthdaro yn Wcráin.
Gobaith y G7 drwy gymryd y cam o osod y cap ddydd Gwener yw atal Vladimir Putin rhag elwa'n ormodol o'r cynnydd mewn pris olew o ganlyniad i'w ryfel.