Newyddion S4C

Ifan Jones Evans: ‘Ma fe lan i ni sut ni’n ffermio tir’

Ifan Jones Evans: ‘Ma fe lan i ni sut ni’n ffermio tir’

“Dwi’n fwy na hapus i wahodd Mark Drakeford, Lesley Griffiths a Julie James, y gweinidog newid hinsawdd yma i’r fferm ym Mhont-rhyd-y-groes i weld beth sy’n bosib.”

Dyna wahoddiad y cyflwynydd Ifan Jones Evans i Brif Weinidog Cymru a’i weinidogion i drafod cynlluniau Llywodraeth Cymru i blannu 86 miliwn o goed erbyn 2030.

Mae Ifan Jones Evans yn adnabyddus am ei waith yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru, rhaglen Cefn Gwlad a rhaglenni amaethyddol eraill ar S4C, ac mae hefyd yn ffermio ar y fferm deuluol sydd ychydig llai na 500 o erwau yng Ngheredigion.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetir ar dir amaethyddol llai cynhyrchiol.

'Gwthio fe lawr ein gyddfe' ni'

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Ifan Jones Evans fod cynlluniau Llywodraeth Cymru i blannu coed ar dir amaethyddol yn “bryderus i ffermwyr”.

“Byddwn ni’n dweud bo’ fi’n deall tipyn am y diwydiant erbyn hyn, a finne yn 37 wedi fy ngeni a fy magu ar y fferm deuluol ac yn cael cyfle i gyfarfod ffermwyr ar draws Cymru gyfan.

“Dwi’n meddwl bod e yn gyfrifoldeb ar bawb, dim ots pa ddiwydiant i drial edrych ar ôl yr amgylchedd. Ac mae ffermio mewn ffordd gynaliadwy yn gyfrifoldeb ar bob ffarmwr.

“Ond y pryder sydd gen i ydy’r ffordd maen nhw wedi trio gwthio fe lawr ein gyddfe' ni i ddweud gwir. Ar ddiwedd y dydd ni sydd berchen y tir a ma’ fe lan i ni sut ni’n ffermio’r tir yna.” 

Ym mis Gorffennaf dywedodd y llywodraeth y bydd rhaid i ffermwyr Cymru sicrhau bod o leiaf 10% o'u tir wedi'i orchuddio â choed er mwyn elwa o gyllid cyhoeddus yn y dyfodol.

Yn ôl Ifan Jones Evans nid yw’n gynaliadwy i bob ffermwr i blannu 10% o’u tir mewn coed.

“Os ydych chi yn ffermio mewn ardaloedd yn Sir Fôn, Pen Llŷn, Sir Benfro, Caerfyrddin lle mae’r tir yn ffrwythlon- allwch chi ddim neilltuo 10% o’r tir glan a ffrwythlon i blannu coed yn fy marn i.

“Yn enwedig gyda phrisiau bwyd yn mynd trwy’r to a’r rhyfel yn Wcráin yn gwthio prisiau i fyny. Mae’n rhaid i ni fod yn fwy cynaliadwy efo’r bwyd i ni’n gallu cynhyrchu.”

'Dyw e ddim yn deg'

Dywedodd ei fod eisoes wedi trio cael grantiau i blannu coed ar eu fferm yn y gorffennol, ond nad oedd swyddogion yn hapus gyda’r tir oedd yn cael ei gynnig ac eisiau plannu coed ar “gaeau gorau'r fferm”.

Ychwanegodd fod y gofyniad ddim yn un “teg” ac fe all ddinistrio bywoliaeth rhai ffermwyr.

 “Dyw e ddim yn deg, yn enwedig os oes rhywun yn ffermio rhyw 50-100 erw ac wedi buddsoddi yn y tir. Yn syth bydd eu busnes nhw yn mynd allan drwy’r ffenest a dyw e ddim yn deg iawn.”

Yn ystod y Sioe Frenhinol eleni dywedodd Mr Drakeford bod yn rhaid iddo gyfiawnhau gwario mwy o dreth ar ffermio i "yrwyr tacsi o Bangladesh" yng Nghaerdydd.

Wrth ymateb i’w sylwadau dywedodd Ifan Jones Evans mai'r un gyrwyr tacsi fydd yn gofyn "pam bod dim bwyd ar y silffoedd, llaeth yn yr oergell bara yn y siop".

Ychwanegodd bod y fath agwedd at y diwydiant amaethyddol yn “anghywir”.

“Dwi fwy nag hapus i gael nhw yma iddyn nhw gael gweld beth sy’n bosib,” meddai gan wahodd Mr Drakeford i’w fferm.

“Ella bysa ymweliad yn ffordd o sgwrsio gyda nhw ac i gael nhw yn fwy empathetig at y diwydiant a’r heriau sy’n wynebu ni.

“Gyda’r costau yn mynd trwy’r to mae yna sôn y bydd pris fertiliser blwyddyn nesaf yn dwblu ac mae tanwydd wedi mynd drwy’r to, felly chydig bach o empathi bydda’n barf.”

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd ffermwyr a pherchnogion tir yn derbyn £32m er mwyn plannu 86 miliwn o goed mewn llai na degawd.

Mae Ifan Jones Evans yn gobeithio na fydd yr arian yma yn cael ei defnyddio i brynu tir amaethyddol “fel sydd wedi bod yn digwydd.”

Llynedd fe brynodd Llywodraeth Cymru 27 acer o dir ar Ynys Môn er mwyn plannu coedwig.

"I fi mae’n warthus bod nhw wedi bod yn prynu tir amaethyddol a ffrwythlon ac wedi prisio pobl ifanc o’r farchnad er mwyn plannu coed ar y tir.

“Jyst gobeithio bydd yr arian yma ddim yn mynd at brynu mwy o dir ffrwythlon ar hyd a lled Cymru na’i  gyd ddweda i.”

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi dweud bod angen i ni blannu 86m o goed erbyn diwedd y ddegawd hon yng Nghymru er mwyn cyrraedd NetZero erbyn 2050. Bydd y £32m ar gyfer y cynlluniau creu coetiroedd hyn yn ein helpu i gyrraedd ein targedau Sero Net.

“Y tu hwnt i helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur, mae plannu coed yn cynnig cyfle sylweddol i’r economi wledig greu swyddi gwyrdd a sgiliau cynaeafu pren ar gyfer nwyddau gwerth uchel, a bydd yn helpu i’n hamddiffyn rhag llifogydd y rhagwelir y byddant yn gwaethygu fel ganlyniad newid hinsawdd.

“Rydym am i ffermwyr fod wrth galon creu coetir, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetir ar dir amaethyddol llai cynhyrchiol wrth i ni weithio i gyflawni Sero Net. Rydym yn annog ffermwyr i wneud cais am y cyllid hwn."

Llun:Ffermio

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.