Heddlu'n ymchwilio wedi i fideo ddangos ymosodiad ar ddyn yn Nolgellau

Dolgellau

Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad wedi i fideo ddod i'r amlwg ar-lein oedd yn dangos ymosodiad ar ddyn yn Nolgellau.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar groesffordd Ffordd Arran a Stryd Smithfield ar 6 Hydref.

Doedd yna neb wedi adrodd yr ymosodiad i'r llu ond ar ôl cael gwybod am y fideo, cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol. 

Erbyn hyn mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod y llu yn parhau i ymchwilio.

Mae'r Arolygydd Iwan Jones wedi "diolch i’r rhai sydd wedi cefnogi’r ymchwiliad ac wedi dod â’r mater i sylw Heddlu Gogledd Cymru. "

Mae'r llu yn apelio am dystion ac yn dweud bod modd cysylltu trwy ffonio 101 neu trwy eu gwefan a rhoi'r cyfeirnod 25000833505.

Llun: Google Maps 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.