Sir Gâr: Pwyllgor o blaid camau cyntaf i gau pedair ysgol wledig
Sir Gâr: Pwyllgor o blaid camau cyntaf i gau pedair ysgol wledig
Mae un o bwyllgorau Cyngor Sir Gâr wedi pleidleisio o blaid argymhelliad i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol pedair ysgol gynradd wledig yn y sir.
Mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg fore dydd Mawrth, pleidleisiodd aelodau o blaid cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol Ysgol Pontiets, Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro, a chynnal hysbysiad statudol ar ddyfodol Ysgol Llansteffan.
Mae adroddiad ar foderneiddio addysg yn y sir yn cynnig y dylid cau Ysgol Llansteffan ar ddiwedd mis Awst 2026 ac Ysgol Y Fro, ger Cydweli, Ysgol Meidrim, i'r gorllewin o Gaerfyrddin, ac Ysgol Pontiets ar ddiwedd mis Rhagfyr 2026.
Fe fydd Cabinet y cyngor yn gwneud penderfyniad ar yr argymhellion ar 17 Tachwedd.
Arbedion ariannol
Mae adroddiad gan y cyngor yn nodi y byddai cau’r pedair ysgol yn arbed tua £342,064 y flwyddyn i’r awdurdod. Byddai hefyd yn arbed £30,915 pellach mewn costau canolog fel cymorth adnoddau dynol, y gwasanaeth cerddoriaeth a chynnal a chadw tiroedd.
Ar ben hynny gallai'r cyngor eu gwerthu am tua £695,000, yn ôl yr adroddiad, pe na bai unrhyw ddiddordeb corfforaethol na chymunedol yn yr adeiladau.
Mewn ymateb i’r cynnig yn yr adroddiad, dywedodd Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith bod yna beryg y gallai plant orfod mynychu ysgolion Saesneg eu hiaith pe bai’r ysgolion yn cau.
“Pwysleisiwn fod gyda chi benderfyniad difrifol i’w wneud,” meddai.
“Gofynnwn yn daer i chwi beidio cymeradwyo cynigion niweidiol hyn i’r Cabinet a gofyn i swyddogion i drafod eto erbyn mis Ionawr atebion amgen gyda llywodraethwyr a chyrff eraill.
“Mae'r cynigion yn ddi-angen gan fod ffigurau'r Cyngor ei hun yn rhagweld cynnydd yn y nifer o blant sy’n mynychu’r tair ysgol yn ardal Caerfyrddin dros y 4 blynedd nesaf."
Niferoedd disgyblion
Mae gan Ysgol Llansteffan le i 62 o ddisgyblion ond dim ond wyth oedd ganddi, gan gynnwys un o oedran meithrin, pan gafodd ei hasesu y llynedd.
Mae'n costio £18,545 y disgybl i'w haddysgu, yn ôl adroddiad y pwyllgor - mwy na thair gwaith y cyfartaledd gwladol o £5,480.
Roedd 30 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2021 a'r disgwyl yw y bydd y nifer yn gostwng i 18 ymhen pum mlynedd.
Roedd gan Ysgol Y Fro 15 o ddisgyblion ym mis Ionawr eleni a chapasiti o 41.
Cafodd ei rhoi mewn mesurau arbennig eleni yn dilyn arolygiad gan Estyn.
Y cynllun yw i ddisgyblion drosglwyddo i Ysgol Y Dderwen.
Yn y cyfamser, roedd gan Ysgol Meidrim 31 o ddisgyblion ym mis Ionawr, gyda chapasiti o 54.
Fel Ysgol Y Fro, mae hefyd mewn mesurau arbennig.
Byddai disgyblion yn symud i Ysgol Griffith Jones yn Sanclêr pe bai'n cau.
Roedd gan Ysgol Pontiets 24 o ddisgyblion ym mis Ionawr a lle i 85. Bedair blynedd yn ôl, roedd 41 o bobl ifanc yn yr ysgol.
Ysgol Pontiets yw'r unig un o'r pedair sydd dan fygythiad sydd ag arian dros ben, ond dywedodd adroddiad y cyngor fod ganddi "orwariant sylweddol yn ystod y flwyddyn" ac roedd yn debygol o symud i ddiffyg.