Toriadau'n bosib os na fydd cyllideb y llywodraeth yn cael ei phasio

Eluned Morgan yng nghynhadledd y blaid Lafur

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi rhybuddio y gallai gwasanaethau cyhoeddus wynebu toriadau os na fydd y llywodraeth Lafur yn llwyddo i basio’r gyllideb.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn ddiweddarach. 

Fe fydd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, yn amlinellu cynlluniau gwariant y llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn 2026/27, sydd yn werth dros £27 biliwn.

Bydd cam nesaf y Gyllideb Ddrafft, sy’n cynnwys cynlluniau gwariant mwy manwl ar gyfer bob adran yn cael ei chyhoeddi ar 3 Tachwedd.

Bydd y Senedd yn pleidleisio ar y Gyllideb Derfynol ym mis Ionawr 2026. Mae'n rhaid i ASau gymeradwyo'r gyllideb iddi gael ei phasio. 

Fe fydd pwy bynnag fydd mewn grym wedi etholiad y Senedd flwyddyn nesaf yn gorfod glynu at y gyllideb. 

Cefnogaeth gan y Ceidwadwyr?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi awgrymu y byddan nhw'n cefnogi cyllideb Llafur os bydd y llywodraeth yn cefnogi ei chynlluniau i ddileu treth sy'n cael ei thalu gan brynwyr tai.

Mae Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ysgrifennu at y Farwnes Morgan, gan gynnig trafod cytundeb cyllideb os yw Llywodraeth Cymru yn ystyried dileu'r dreth trafodion tir, sef y dreth stamp yng Nghymru.

Roedd yn rhaid ennill cefnogaeth gan aelod o’r wrthblaid, sef yr AS Jane Dodds ar ran Y Democratiaid Rhyddfrydol, er mwyn sicrhau bod y gyllideb ddiwethaf yn cael ei chymeradwyo – a hynny o drwch blewyn – ym mis Mawrth.

Er mai’r Blaid Lafur yw’r blaid a’r fwyaf o aelodau yn y Senedd, dydyn nhw ddim â mwyafrif.

Fe allai is-etholiad Caerffili ar 23 Hydref greu heriau pellach iddynt basio'r gyllideb os y byddant yn colli'r sedd yno.

Yr ymgeiswyr sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer yr is-etholiad yw Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig), Llŷr Powell (Reform UK), Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru), Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Roger Quilliam (UKIP) ac Anthony Cook (Gwlad).

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.