Apêl o'r newydd i adnabod corff dyn oedd mewn cronfa ddŵr ym Mhowys

Claerwen / Wetsuit

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi apêl o’r newydd am wybodaeth flwyddyn ers i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys. 

Yn dilyn 12 mis o ymholiadau, nid yw Heddlu Dyfed-Powys wedi gallu adnabod y dyn gafodd ei ddarganfod yn farw yng Nghronfa Ddŵr Claerwen yng Nghwm Elan. 

Mae'r heddlu'n gofyn i'r cyhoedd gynnig unrhyw wybodaeth a allai helpu, 12 mis ers i'r ymchwiliad ddechrau. 

Mae hyn yn cynnwys apêl genedlaethol ar BBC Crimewatch Live ar BBC One am 10.45 ar ddydd Gwener 27 Hydref.

'Sefyllfa anarferol'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, sydd wedi arwain yr ymchwiliad: “Mae hon yn sefyllfa anarferol iawn, sef nad ydyn ni wedi gallu ei adnabod flwyddyn ar ôl i'r person gael ei ddarganfod yn farw.

“Rydyn ni wedi dilyn nifer o ymholiadau, ond dydyn ni ddim nes at ddarganfod pwy yw'r dyn hwn, o ble y daeth, na sut y daeth i golli ei fywyd. 

“Mab rhywun yw hwn, partner, brawd neu dad rhywun o bosibl, ac fe fydden ni yn hoffi gallu ei ddychwelyd at unrhyw deulu neu anwyliaid a allai fod wedi ei golli. 

“Gallai unrhyw wybodaeth sydd gennych fod yn allweddol wrth ddarganfod pwy yw'r dyn hwn.” 

Fe dderbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad 999 ychydig cyn 08.30 ar 18 Hydref 2024, yn adrodd bod corff dyn wedi cael ei weld yn y dŵr gan gerddwr. 

Fe aeth y gwasanaethau brys i'r lleoliad oedd mewn rhan anghysbell o'r gronfa ddŵr, a dod o hyd i'r corff. 

Post mortem

Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad bod y dyn rhwng 30 a 60 oed, ac yn chwe troedfedd o daldra. 

Y gred yw bod y corff wedi bod yn y dŵr ers hyd at 12 wythnos. 

Doedd dim eiddo personol o amgylch y gronfa ddŵr a dim oriawr na gemwaith yn cael eu gwisgo gan y dyn. Yr unig eitem oedd ar gael i swyddogion wneud ymholiadau amdano oedd siwt wlyb, neu 'wetsuit'.

"Nid oedd unrhyw gerbydau, beiciau na dulliau trafnidiaeth eraill yn yr ardal a allai fod wedi dangos sut y cyrhaeddodd yno, neu y gallem fod wedi’u defnyddio i sefydlu llwybr teithio," meddai'r Ditectif Arolygydd Ponting. 

Dros y 12 mis diwethaf, mae swyddogion wedi gwirio ei ddisgrifiad yn erbyn rhestrau o bobl ar goll o ardal Heddlu Dyfed-Powys a holl ardaloedd heddlu eraill y DU. Maen nhw hefyd wedi cysylltu â heddlu rhyngwladol ac wedi cynnal ymholiadau gyda chronfeydd data olion bysedd a DNA.

“Rhaid bod rhywun allan yna sydd yn colli'r person hwn,” meddai DA Ponting. 

“Os ydych chi’n meddwl y gallwch chi ein helpu i’w adnabod, cysylltwch â ni.”

Mae modd cysylltu gyda'r heddlu drwy wefan Heddlu Dyfed-Powys, drwy ebostio 101@dyfed-powys.police.uk neu drwy ffonio 101.

Llun: BBC Crimewatch Live

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.