Plentyn pump oed o Ferthyr Tudful wedi boddi 'ar ôl datgloi drws ei fflat'

Theo Treharne-Jones.jpg

Mae cwest wedi clywed fod plentyn pump oed o Ferthyr Tudful wedi boddi mewn pwll nofio tra ar wyliau teuluol yng Ngwlad Groeg ar ôl datgloi drysau'r fflat yr oedden nhw yn aros ynddo.

Bu farw Theo Treharne-Jones ar ôl cael ei ddarganfod mewn pwll awyr agored ym Mhentref Gwyliau Atlantica yn Kos ym mis Mehefin 2019. 

Clywodd Llys Crwner Canol De Cymru fod Theo ar wyliau gyda'i rieni, Richard a Nina, a'i deulu ehangach pan bu farw. 

Dywedodd Nina Treharne wrth y gwrandawiad fod y teulu wedi aros yn yr un gwesty y flwyddyn flaenorol ond mewn fflatiau gwahanol, ac roedd gan y rhai hynny gadwyni drws y tu mewn i'r ystafelloedd i atal plant rhag gadael. 

Dywedodd yn y gwrandawiad ym Mhontypridd nad oedd gan y fflat diweddaraf gadwyni ar y drysau.

Ychwanegodd Ms Treharne fod Theo wedi derbyn diagnosis o gyflwr niwroddatblygiadol syndrom Smith-Magenis, a oedd yn effeithio ar ei gwsg, ac nad oedd yn gallu cyfathrebu.

Dywedodd nad oedd ei mab yn gallu nofio ond y byddan nhw fel teulu yn defnyddio ardal 'splash pad' y pentref gwyliau, ac y byddai'n defnyddio rhwymynnau braich (arm bands).

Clywodd y cwest fod y teulu wedi cyrraedd y pentref gwyliau yn hwyr yn y nos ac wedi casglu'u goriadau o'r dderbynfa cyn gwneud eu ffordd i'r fflat.

Dywedodd Ms Treharne ei bod wedi deffro ar fore 15 Mehefin gan glywed sŵn o'r tu allan. 

"Dwi'n cofio agor fy llygaid yn y bore a'r cwbl oeddwn i yn gallu ei glywed oedd dynes yn gweiddi, 'Mae yna blentyn yn y pwll, mae yna blentyn yn y pwll'," meddai.

"Roedd drws ein hystafell ar agor, ac es i lawr y grisiau. Dw i jyst yn cofio nad oedd Theo yn yr ystafell.

"Ni fyddai byth, byth yn cael caniatâd i fod yn agos at bwll ar ei ben ei hun. Fe wnaethon ni ddeffro i hunllef lwyr."

Clywodd y cwest fod person arall wedi gweld Theo ym mhen bas y pwll a'i dynnu allan.

Fe wnaeth staff y gwesty a phobl eraill oedd yn aros yno gynnal CPR ac fe gafodd Theo ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach. 

Mae'r cwest yn parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.