Zip World: Pryderon y bydd 'sgrechfeydd’ yn tarfu ar drigolion Bethesda
Mae trigolion sy’n byw yn agos at Zip World ym Methesda yn galw am fesurau i leihau’r "sgrechfeydd o fraw a chyffro" pe bai atyniad newydd yn cael ei ganiatáu eto.
Mae pobl sydd yn byw yn Rhes Jems, ym Mraichmelyn yn dweud eu bod yn poeni am “synau gwrthgymdeithasol” os yw’r parc antur yn derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer reid newydd.
Maen nhw wedi gofyn i Gyngor Gwynedd godi’r mater gyda’r cwmni.
Daw wedi i gais gael ei gyflwyno am atyniad newydd yn y parc, sydd wedi’i leoli yn Chwarel Penrhyn.
Mae’r cais yn cynnwys reid ‘Swing’ sydd â chwe sedd, ynghyd â strwythur platfform, ramp, strwythur glanio, ceblau a strwythur angori.
Ymhlith y sylwadau a gynigwyd yn ystod proses ymgynghori’r cais, dywedodd trigolion: “Pe bai’r cynllun yn cael ei ganiatáu, gofynnwn i Gyngor Gwynedd drafod y mater uchod gyda Zip World er mwyn sicrhau bod y cwmni yn cymryd camau addas i liniaru ein pryderon.”
Fe wnaeth adroddiad gan y cyngor nodi fod asesiad sŵn wedi'i gyflwyno gyda'r cais, ac arolwg sŵn sylfaenol wedi'i gynnal mewn dau leoliad gerllaw'r tai agosaf.
Roedd y model yn rhagweld y byddai’r lefelau sŵn yn disgyn “yn sylweddol oddi tan y lefel o sain gefndirol o 10db neu’n uwch, gan awgrymu na fyddai modd sylwi ar y sŵn dan amodau arferol, ac na fydd unrhyw sgil effeithiau niweidiol”.
Mae adran cynllunio’r cyngor wedi argymell caniatáu’r cynllun, gydag amodau.
Fe fydd y pwyllgor cynllunio yn ystyried y cais mewn cyfarfod ddydd Llun 20 Hydref.