Ymgyrch yn taflu goleuni ar bryderon diogelwch rhedwyr benywaidd yn y gaeaf
Mae ymgyrch wedi’i lansio er mwyn codi ymwybyddiaeth am bryderon rhedwyr benywaidd am eu diogelwch wrth redeg dros gyfnod yr hydref a'r gaeaf.
Gydag ymchwil yn dangos bod 72% o fenywod yn newid eu gweithgareddau ymarfer corff dros y gaeaf, mae Athletau Cymru a Heddlu De Cymru wedi dechrau ymgyrch o’r enw ‘Ein Nos Ni’.
Nod y cynllun yw codi ymwybyddiaeth o bryderon menywod am eu diogelwch, addysgu cymunedau rhedeg ar sut i gefnogi menywod, a rhoi hyder i fenywod.
Bydd digwyddiadau ‘Hawlio’r Strydoedd’ yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Abertawe a Bae Colwyn ar ddydd Sul 26 Hydref, yn gwahodd clybiau rhedeg a rhedwyr i redeg gyda’i gilydd, wedi’r clociau fynd yn ôl.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Tracey Rankine, pennaeth yr heddlu ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn Heddlu De Cymru: "Mae'n hollol annerbyniol bod menywod yn newid eu llwybrau rhedeg, yn osgoi rhai lleoliadau neu ddim yn rhedeg gyda'r nos oherwydd ymddygiad pobl eraill.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshAthletics/status/1975658412571574528
“Mae pawb yn haeddu bod a theimlo'n ddiogel a mwynhau ein mannau cyhoeddus, heb ofn.”
Dywedodd y byddai swyddogion yn mynychu digwyddiadau parkrun ar foreau Sadwrn er mwyn “rhoi sicrwydd i bobl a gwrando ar bryderon”.
Fe ychwanegodd. "Rwy'n annog unrhyw un sy'n profi aflonyddu neu fygythiad i roi gwybod i'r heddlu am unrhyw bryderon fel y gallwn roi diwedd ar yr ymddygiad hwn."
Afloynyddu
Yn ôl adroddiad diweddar gan Our Streets, fe wnaeth 93% o bobl a wnaeth ymateb i holiadur ddweud eu bod wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol cyhoeddus wrth redeg.
Mae ymchwil gan This Girl Can hefyd wedi dangos bod 24% o fenywod yn newid llwybrau rhedeg i rai sydd wedi’u goleuo’n dda, tra bod 20% yn edrych y tu ôl iddynt i sicrhau nad ydynt yn cael eu dilyn.
Fe fydd cyfres o drafodaethau ar-lein hefyd yn cael eu cynnal er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor am sut i gadw’n ddiogel.
Dywedodd llefarydd ar ran Athletau Cymru: “Mae mwy o fenywod yn rhedeg yng Nghymru nag erioed, er mwyn cymryd rhan mewn rasus, ymuno â chlybiau a grwpiau, neu i redeg er mwyn eu lles corfforol a meddyliol.
“Mae'n amlwg bod angen gwneud gwaith i sicrhau bod rhedeg yn hygyrch ac yn ddiogel i bawb sydd eisiau cymryd rhan.
“Rydym am rymuso menywod a chynyddu eu hyder i barhau i fod yn egnïol o'r Hydref ymlaen.”