'Nifer sylweddol' yn gwrthwynebu cais am fferm solar yn Llŷn

Cynlluniau ar gyfer fferm solar

Mae “nifer sylweddol” o bobl wedi lleisio eu gwrthwynebiad i gais am fferm solar ar dir amaethyddol yng Ngwynedd. 

Daw’r gwrthwynebiad i'r cynllun wedi i Gyngor Gwynedd dderbyn cais cynllunio ar gyfer fferm solar 4.99MW yn Llanbedrog ger Pwllheli. 

Mae’r cais gan gyfarwyddwr Lôn Pin Solar, Dr Chris Bale, hefyd yn cynnwys creu ffyrdd a mynediad newydd ar gyfer cerbydau, yn ogystal a gosod dwy orsaf drawsnewid i ddosbarthu trydan, a gosod ceblau tanddaearol mewn ardal ger Lôn Pin.

Fe fydd y cais cynllunio yn cael ei drafod yng nghyfarfod cynllunio’r cyngor ar ddydd Llun, 20 Hydref.

Yn dilyn gwrthwynebiad gan “nifer fawr” o bobl yr ardal, yr argymhelliad yw i wrthod y cais cynllunio. 

Image
Lleoliad y fferm solar
Lleoliad y fferm solar

'Pryderon'

Byddai’r fferm ar draws 5.5 hectar ar ddau gae sydd yn 8.2 hectar o faint.

Ond mae yna bryderon y byddai cynllun o’r fath yn cael effaith negyddol ar y diwydiant amaethyddol, yn ogystal â golygfeydd, llwybrau cerdded a man glanio ambiwlans awyr. 

Mae’r cwmni y tu ôl i’r cynllun yn dweud y byddai’r fferm solar yn cael effaith “fach iawn” ar yr ardal. 

Dywedodd Cyngor Cymuned Llanbedrog eu bod nhw wedi derbyn nifer sylweddol o lythyron gan drigolion lleol yn gwrthwynebu’r cynllun. 

Fe wnaeth aelodau’r cyngor cymuned bleidleisio yn erbyn y datblygiad o ganlyniad i'r holl ymatebion yr oedd wedi ei dderbyn. 

Byddai’r fferm solar yn cael ei hadeiladu ar “dir amaethyddol o safon” sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwartheg godro “am flynyddoedd,” meddai adroddiad y cyngor cymuned. 

Byddai llwybr cerdded rhwng Llanbedrog a Nefyn hefyd yn cael ei effeithio, ac fe fyddai'r datblygiad yn “agos iawn” at fan glanio’r ambiwlans awyr. 

Daw’r gwrthwynebiad lleol yn dilyn achos tebyg ar Ynys Môn yn ddiweddar. Mae cynghorwyr yno wedi cefnogi cais am adolygiad barnwrol ar ôl i Lywodraeth Cymru ganiatáu cais cynllunio am fferm solar ar dir amaethyddol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.