Dyn 25 oed yn gwadu dinoethi a chyffwrdd yn rhywiol mewn menyw
Mae dyn 25 oed wedi gwadu ei fod wedi cyffwrdd yn rhywiol mewn menyw a dinoethi ei hun wedi ymosodiad honedig tra roedd hi yn mynd a'i chi am dro ym Mae Colwyn.
Cafodd Tyler Evans sydd yn byw ym Mae Colwyn ei rhyddhau ar fechnïaeth dan amodau penodol gan farnwr rhanbarthol wedi cais gan ei gyfreithiwr.
Roedd yr erlyniad wedi rhoi cais iddo gael ei gadw yn y ddalfa. Ond dywedodd cyfreithiwr Tyler Evans ei fod wedi "gweithredu yn llawn" gyda'r heddlu.
Mae Evans yn wynebu cyhuddiadau sydd yn dyddio yn ôl i 6 Hydref ym Mharc Eirias, Bae Colwyn.
Mae'r achos wedi ei ohirio tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon y mis nesaf. Mae amodau ei fechnïaeth yn cynnwys cyrffew dros nos a gwaharddiad rhag mynd i Barc Eirias.