Amser i 'ail adeiladu Gaza' medd Trump
Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi dweud bod hi nawr yn amser "i ail adeiladu Gaza" wrth iddo arwyddo cytundeb heddwch mewn cynhadledd o arweinwyr y byd yn yr Aifft.
Ddydd Llun fe gafodd gwystlon Israelaidd a charcharorion Palesteinaidd eu rhyddhau yn Gaza fel rhan o gadoediad heddwch.
Yn y gynhadledd fe arwyddodd America, Yr Aifft, Qatar a Thwrci ddatganiad fel gwarantwyr y cadoediad gyda'r nod i ddod â'r rhyfel i ben.
Ond tra bod yr holl wystlon oedd yn fyw, sef 20 ohonyn nhw, wedi eu rhyddhau mae teuluoedd dal yn disgwyl am gyrff rhai eraill.
Pedwar o'r cyrff yn unig gafodd eu dychwelyd ddydd Llun. Y gred yw bod gweddillion y 24 arall yn parhau yn Gaza.
Mae'r Fforwm Gwystlon a Theuluoedd Coll (Hostages and Missing Families Forum) yn dweud bod Hamas wedi "torri'r cytundeb" heddwch drwy beidio â dychwelyd pob un o'r cyrff. Ond mae Hamas yn dweud bod hi am gymryd amser dod o hyd i'w cyrff.
Wrth siarad gyda newyddiadurwyr ar ei ffordd yn ôl o'r Aifft dywedodd Trump ei fod nawr am "ail-adeiladu Gaza".
Ond mae ail ran y cytundeb heddwch 20 pwynt yn llawn rhwystrau. Fel rhan o'r cytundeb byddai Gaza yn cael ei llywodraethu am gyfnod gan bwyllgor dros dro o dechnocratiaid Palesteinaidd.
Byddant yn cael eu goruchwylio gan y "Bwrdd Heddwch", cyn trosglwyddo pŵer yn y pen draw i'r Awdurdod Palesteinaidd (PA) ar ôl iddo gael ei ddiwygio.
Mae llawer o drafodaethau anodd yn mynd i orfod digwydd er mwyn gallu symud ymlaen gydag ail ran y cytundeb.
Ymhlith y materion sydd yn achosi anghydfod mae diarfogi Hamas, llywodraethiant Gaza yn y dyfodol ac yr amserlen y bydd lluoedd Israel yn gadael.
Cafodd y cytundeb heddwch ei lunio wedi rhyfel yn Gaza a ddechreuodd yn sgil ymosodiad Hamas yn ne Israel yn 2023.
Ers hynny mae mwy na 67,000 o Balesteiniad wedi eu lladd gan luoedd Israel, gan gynnwys mwy na 18,000 o blant, yn ôl y weinyddiaeth iechyd sydd yn cael ei rhedeg gan Hamas.
Llun: Reuters