'Penderfyniad difrifol': Dyfodol pedair ysgol wledig yn Sir Gâr yn y fantol
Mae pedair ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin yn wynebu dyfodol ansicr wrth i bwyllgor craffu’r cyngor sir gyfarfod i drafod eu dyfodol ddydd Mawrth.
Mae'r cyngor yn ystyried cynnig i gau Ysgol Llansteffan ar ddiwedd mis Awst 2026 ac Ysgol Y Fro, ger Cydweli, Ysgol Meidrim, i'r gorllewin o Gaerfyrddin, ac Ysgol Pontiets ar ddiwedd mis Rhagfyr 2026.
Cafodd y pedair ysgol eu nodi fel rhan o strategaeth gyffredinol y cyngor i foderneiddio addysg yn y sir.
Ond mewn llythyr at bob aelod o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin, mae Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi eu hannog i beidio a rhoi sêl bendith i’r cynlluniau y maen nhw’n ei alw’n “niweidiol.”
Maen nhw’n dweud bod y cynigion yn “ddi-angen,” gan hefyd ychwanegu y byddai “risg sylweddol” o ran lleihau nifer y disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
Yr argymhelliad ar hyn o bryd yw cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llansteffan oherwydd bod ganddi lai na 10 disgybl pan gafwyd asesiad ohoni'r llynedd.
'Penderfyniad difrifol'
Mae adroddiad gan y cyngor yn nodi y byddai cau’r pedair ysgol yn arbed tua £342,064 y flwyddyn i’r awdurdod. Byddai hefyd yn arbed £30,915 pellach mewn costau canolog fel cymorth adnoddau dynol, y gwasanaeth cerddoriaeth a chynnal a chadw tiroedd.
Ar ben hynny gallai'r cyngor eu gwerthu am tua £695,000, yn ôl yr adroddiad, pe na bai unrhyw ddiddordeb corfforaethol na chymunedol yn yr adeiladau.
Mewn ymateb i’r cynigion, dywedodd Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith bod yna beryg y gallai plant orfod mynychu ysgolion Saesneg eu hiaith pe bai’r ysgolion yn cau.
“Pwysleisiwn fod gyda chi benderfyniad difrifol i’w wneud,” meddai.
“Gofynnwn yn daer i chwi beidio cymeradwyo cynigion niweidiol hyn i’r Cabinet a gofyn i swyddogion i drafod eto erbyn mis Ionawr atebion amgen gyda llywodraethwyr a chyrff eraill.
“Mae'r cynigion yn ddi-angen gan fod ffigurau y Cyngor ei hun yn rhagweld cynnydd yn y nifer o blant sy’n mynychu’r tair ysgol yn ardal Caerfyrddin dros y 4 blynedd nesaf."
Mae’n dweud y bydd nifer y plant sy’n mynychu Ysgol y Fro'n “agos at ddyblu, y nifer yn Llansteffan yn fwy na dyblu, tra bydd nifer disgyblion Meidrim yn cynyddu o ryw 20% a'r gost y disgybl wedi dod lawr at y cyfartaledd sirol.”
Fe fyddai hwn yn y pen draw, yn gwneud y gost o gynnal yr ysgolion fesul disgybl lawer yn llai, ychwanegodd.
Niferoedd disgyblion
Mae gan Ysgol Llansteffan le i 62 o ddisgyblion ond dim ond wyth oedd ganddi gan gynnwys un o oedran meithrin pan gafodd ei hasesu y llynedd.
Mae'n costio £18,545 y disgybl i'w haddysgu, yn ôl adroddiad y pwyllgor - mwy na thair gwaith y cyfartaledd gwladol o £5,480.
Roedd 30 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2021 a'r disgwyl yw y bydd y nifer yn codi i 18 ymhen pum mlynedd.
Roedd gan Ysgol Y Fro 15 o ddisgyblion ym mis Ionawr eleni a chapasiti o 41.
Cafodd ei rhoi mewn mesurau arbennig eleni yn dilyn arolygiad gan Estyn.
Y cynllun yw i ddisgyblion drosglwyddo i Ysgol Y Dderwen.
Yn y cyfamser, roedd gan Ysgol Meidrim 31 o ddisgyblion ym mis Ionawr, gyda chapasiti o 54.
Fel Ysgol Y Fro mae hefyd mewn mesurau arbennig.
Byddai disgyblion yn symud i Ysgol Griffith Jones pe bai'n cau.
Roedd gan Ysgol Pontiets 24 o ddisgyblion ym mis Ionawr a lle i 85. Bedair blynedd yn ôl, roedd 41 o bobl ifanc yn yr ysgol.
Ysgol Pontiets yw'r unig un o'r pedair sydd dan fygythiad sydd ag arian dros ben ond dywedodd adroddiad y cyngor fod ganddi "orwariant sylweddol yn ystod y flwyddyn" ac roedd yn debygol o symud i ddiffyg.