Siom i Gymru ond 'gymaint o dwf i ddod' gan y tîm medd Bellamy
Mae Craig Bellamy wedi dweud fod “gymaint o dwf” i ddod gan dîm pêl droed Cymru, wrth i’w gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig fwy neu lai ddod i ben.
Er bod Cymru wedi mwynhau sawl gêm i’w chofio yn erbyn Gwlad Belg dros y ddegawd ddiwethaf noson rwystredig oedd hi nos Lun wrth iddyn nhw golli o 2-4 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
“Dwi’n sicr yn siomedig da’r canlyniad, ond dwi ddim yn siomedig da’r perfformiad,” meddai Bellamy ar ôl y gêm.
“O’n i wrth fy modd gyda lot o be oeddan ni’n wneud mewn rhannau mawr o’r gêm.
“Ond dwi’n falch o’r modd oedden ni wedi gallu chwarae. Mae hynny’n ein galluogi i fod y. tîm hoffwn i ni fod, ac mae lot yn hynny.
“Gallwn i ddim bod wedi gofyn am fwy. Mae’n dal i frifo, mae dal yn siomedig, ond mewn rhai mannau dwi’n gweld gymaint o dwf i ddod ynom ni.”
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1977848438474617241
Gyda dwy gêm yn weddill yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd flwyddyn nesaf, mae’n edrych fel bydd yn rhaid i Gymru ennill eu lle drwy’r gemau ail gyfle.
Mae lle yn y gemau ail gyfle eisoes wedi’i sicrhau drwy Gynghrair y Cenhedloedd.
Ond fe fyddai gorffen yn yr ail safle yng Ngrŵp J yn cynnig llwybr mwy ffafriol o bosib, gan gynnwys gêm gartref yn y rownd gyn derfynol.
Wrth siarad ar raglen Sgorio ar ddiwedd y gêm, dywedodd cyn ymosodwr Cymru, Gwennan Harries: “ [Yr ail safle] oedd yr opsiwn realistig byswn i’n dweud cyn, felly mae dal yn ein dwylo ni.
“Ennill y ddwy gêm nesa a ni gyda route dipyn bach yn haws na os bod ni di dod yn trydydd a mynd drwy play offs drwy Gynghrair y Cenhedloedd.”
Ond yn ôl cyn ymosodwr Cymru, John Hartson, mae angen i’r tîm dynhau yn y cefn os am wella ar ganlyniadau diweddar.
“Mae angen amddiffyn tipyn bach yn well,” meddai.
“Dyna 11 gôl ni di ildio yn pedair gêm ddiwethaf ni.
“Mae angen bod tipyn bach yn gryfach yn y canol achos dros y blynyddoedd, oedd Cymru wastad yn amddiffyn yn dda.”