Arolygwyr niwclear wedi cyrraedd gorsaf ynni Zaporizhzhya yn Wcráin

Mae arolygwyr niwclear o'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol wedi cyrraedd gorsaf ynni Zaporizhzhya yn Wcráin, er mwyn asesu diogelwch yr orsaf.
Yr orsaf niwclear yw'r un fwyaf o'i bath yn Ewrop, ac mae yn nwylo lluoedd Rwsia ers ymosodiad y Kremlin ar Wcráin ym mis Mawrth.
Bwriad ymweliad yr arolygwyr yw mesur diogelwch y safle ac amgylchiadau gweithio'r staff yno.
Mae gweinidog tramor Rwsia, Sergei Lavrov, wedi dweud y dylai canfyddiadau'r archwilwyr fod yn ddiduedd.
Darllenwch ragor yma.