Newyddion S4C

Twitter yn lansio botwm golygu i rai defnyddwyr

01/09/2022
Twitter Newyddion S4C

Mae Twitter wedi lansio botwm golygu i rai defnyddwyr ddydd Iau.

Mewn Trydariad, dywedodd y cwmni cyfryngau cymdeithasol eu bod yn cynnal "profion" ar gyfer y botwm golygu.

Dywed y cwmni mai dyma yw'r nodwedd sydd wedi cael y nifer uchaf o alwadau amdano gan ddefnyddwyr.

Fe fydd yn ambell i gyfyngiad serch hynny, gan gynnwys mai dim ond hyd at 30 munud wedi eu cyhoeddi y bydd modd golygu negeseuon ar Twitter.

Hefyd, fe fydd y Tweets yn ymddangos gyda label ac amser arno sy'n dangos fod y Tweet gwreiddiol wedi ei olygu. 

Mae grŵp penodol o ddefnyddwyr wedi eu dewis er mwyn profi'r nodwedd i ddechrau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.