Pêl-droed: Y Cymry sydd wedi symud clybiau dros yr haf
Gyda'r cyfnod trosglwyddo wedi dod i ben mae nifer o chwaraewyr pêl-droed Cymru bellach wedi symud i glybiau newydd.
Dyma gip ar y chwaraewyr sydd wedi symud yr haf hwn, cyn i Gymru wynebu cyfnod cyffrous yn hanes y gamp wrth chwarae yng Nghwpan y Byd ym mis Tachwedd.
Dan James- Leeds United i Fulham (ar fenthyg)
Bydd James yn ymuno gyda’i gyd-chwaraewr rhyngwladol, Harry Wilson, yn Fulham. Bydd disgwyl iddo chwarae ar yr asgell a bwydo peli i Mitrovic ac ymosodwyr eraill.
Ethan Ampadu- Chelsea i Spezia (ar fenthyg)
Yn dilyn cyfnod llwyddiannus ar fenthyg gyda Venezia tymor diwethaf, bydd Ampadu yn dychwelyd i’r Eidal. Roedd Ampadu wedi chwarae yn yr amddiffyn a chanol cae llynedd a bydd disgwyl iddo chwarae rhan debyg i Spezia.
Aaron Ramsey - Juventus i Nice
Ar ôl tair blynedd gyda Juventus symudodd Ramsey i OGC Nice yn Ffrainc. Mae'r chwaraewr canol cae wedi perfformio'n dda hyd at hyn, gan sgorio yn ei gêm gyntaf i'r clwb.
Joe Rodon - Tottenham Hotspur i Stade Rennais (ar fenthyg)
Mae Rodon wedi ymuno â Ramsey yn Ffrainc trwy arwyddo i Stade Rennais ar fenthyg. Mae'r amddiffynnwr wedi chwarae bedair gwaith mewn o pum gêm gynghrair i'r clwb eleni, a sgoriodd ei gôl gyntaf yn erbyn Stade Brestois ar 31 Awst.
James Lawrence - St. Pauli i FC Nurnberg
Mae Lawrence wedi ymuno gyda'r clwb yn Bundesliga 2 er mwyn chwarae'n gyson a cheisio sicrhau lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Nid oedd yn rhan o'r garfan ar gyfer EURO 2020 o achos anaf.
Wayne Hennessey - Burnley i Nottingham Forest
Hennessey oedd arwr Cymru yn erbyn Wcráin wrth iddo wneud naw arbediad i sicrhau lle Cymru yng Nghwpan y Byd. Hyd yn hyn mae wedi bod yn ail ddewis i Forest, gan chwarae gemau cwpan yn unig.
Rabbi Matondo - FC Schalke 04 i Rangers
Nid oedd pethau wedi gweithio i Matondo gyda Schalke, ond fe gafodd dymor llwyddiannus gyda Cercle Brugge yng Ngwlad Belg gan sgorio naw gôl mewn 26 gêm. Mae wedi ennill ei le yng ngharfan Rob Page ers hynny, ac mae wedi ymuno gyda Rangers eleni.
Joe Allen - Stoke City i Abertawe
Ailymunodd Allen gyda'i gyn-glwb 12 mlynedd wedi iddo ei adael i ymuno â Lerpwl. Mae Allen wedi bod yn allweddol yng nghanol y cae i Abertawe, sydd wedi cael dechrau gwael i'r tymor.
Tom Lawrence - Derby County i Rangers
Er i Derby ddisgyn i Adran Un, fe gafodd Tom Lawrence dymor da iawn, ac roedd yn haeddu ei le yn Rangers. Nid yw wedi cael ei gynnwys yng ngharfan ddiweddar Rob Page, ond bydd yn gobeithio creu argraff arno cyn mis Tachwedd.
Dylan Levitt - Manchester United i Dundee United
Wedi tair blynedd gyda Manchester United mae Levitt wedi symud i Dundee United yn yr Alban. Roedd ar fenthyg gyda'r clwb y llynedd a sgoriodd chwe gôl mewn 29 gêm. Bydd yn chwaraewr allweddol i Dundee y tymor hwn.
Neco Williams - Lerpwl i Nottingham Forest
Mae Williams wedi cael 12 mis llwyddiannus iawn. Enillodd y Bencampwriaeth pan oedd ar fenthyg i Fulham ac mae wedi serennu i Gymru hefyd. Bydd yn chwarae'n barhaol i Forest yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi iddo symud o Lerpwl am £17 miliwn.
Tyler Roberts - Leeds i QPR (ar fenthyg)
Nid oedd Roberts wedi gallu cadarnhau lle yn nhîm cyntaf Leeds ers iddynt gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr. Mae'n barod wedi creu argraff gyda QPR gan sgorio gôl o safon yng Nghwpan Cynghrair Lloegr.
James Chester - Stoke City i Derby County
Gadawodd Chester Stoke ar ôl bod yn eilydd am rhan fwyaf o dymor 2021/22. Mae nawr wedi ymuno â Derby yn Adran Un er mwyn ceisio chwarae'n gyson.
Chris Gunter - Chartlon Athletic i AFC Wimbledon
Mae ffefryn cefnogwyr Cymru wedi bod yn rhan gyson o garfan Cymru ers 2007. Mae'r amddiffynnwr bellach wedi symud i AFC Wimbledon, sydd newydd ddisgyn i Adran Dau.
Ben Woodburn - Lerpwl i Preston North End
Chwaraewr llawn gobaith oedd Woodburn pan sgoriodd yn erbyn Awstria, ond nid yw pethau wedi bod yn hawdd iddo ers hynny. Yn dilyn ymuno â nifer o glybiau ar fenthyg, mae Woodburn nawr wedi arwyddo i Preston North End yn y Bencampwriaeth.
Gareth Bale - Real Madrid i LAFC
Efallai'r newid mwyaf adnabyddus allan o holl chwaraewyr Cymru yr haf hwn oedd Gareth Bale i Los Angeles FC. Bydd chwarae'n gyson yn allweddol i Bale wrth gadw'n ffit ar gyfer Cwpan y Byd, ac mae capten Cymru yn barod wedi creu argraff gyda'i goliau a'i sgiliau.
Will Vaulks - Caerdydd i Sheffield Wednesday
Chwaraeodd Vaulks 36 gêm i Gaerdydd y llynedd, ond eleni mae wedi arwyddo i Sheffield Wednesday yn Adran Un. Nid yw Vaulks wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru yn ddiweddar ond bydd yn gobeithio y gall ei berfformiadau greu argraff ar Rob Page.