Meddyg gwirfoddol o Brydain wedi ei ladd yn Wcráin

Mae meddyg gwirfoddol o Brydain wedi cael ei ladd yn Wcráin.
Cafodd Chris Mackintosh ei ladd ar 24 Awst.
Mae ei chwaer, Lorna, wedi ei ddisgrifio fel "arwr rhyfel" a "dyn anhunanol".
Mae hi wedi creu tudalen GoFundMe i godi arian er mwyn dychwelyd ei gorff i Brydain.
Bydd y gost tua £4,000, ac mae mwy na £6,000 wedi cael ei roi yn barod.
Darllenwch fwy yma.