
Owain ymhlith enwau stormydd y flwyddyn nesaf
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi enwau stormydd y flwyddyn nesaf, ac mae enw Cymraeg wedi ei gynnwys.
Mae'r enw Owain wedi cael ei ddewis ymhlith nifer o enwau a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer stormydd ym Mhrydain yn 2023.
Roedd yr enw Owain wedi cael ei gynnwys ar ôl i aelodau'r cyhoedd argymell enwau.
Betty gafodd y nifer uchaf o bleidleisiau eleni gyda 12,000 ar arolwg barn ar gyfrif Twitter y Swyddfa Dywydd.

Eleni yw'r wythfed flwyddyn i stormydd cael eu henwi, ac mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod gwneud hyn wedi helpu pobl i ddeall difrifoldeb stormydd a gweithredu i gadw eu hunain yn ddiogel.
Roedd arolwg gan y Swyddfa Dywydd yn dangos bod 98% o bobl mewn ardal rhybudd coch Storm Eunice yn ymwybodol o'r rhybudd, a bod 91% wedi cymryd camau i ddiogelu eu hunain.