Newyddion S4C

Lord of the Rings: Cymry'n serennu ar y carped coch

Heno 31/08/2022

Lord of the Rings: Cymry'n serennu ar y carped coch

Bu nifer o actorion Cymreig yn camu ar y carped coch nos Fawrth yn ystod noson i lansio cyfres newydd Lord of the Rings. 

Ar ôl tair ffilm a degau o wobrwyau, mae'r gyfres sydd yn seiliedig ar lyfrau J.R.R Tolkien yn symud i'r sgrin fach yng nghyfres 'The Rings of Power'. 

Mae'r Cymry Owain Arthur, Morfydd Clarke a Trystan Gravelle oll yn chwarae rhan ganolog yn y gyfres.

Wrth siarad gyda rhaglen Heno yn ystod premier y gyfres newydd yn Llundain nos Fawrth, dywedodd Owain Arthur fod y profiad yn "hollol boncyrs." 

Ychwanegodd Morfydd Clark, sydd yn chwarae un o'r brif cymeriadau Galadriel, ei bod "mor excited" i bobl gweld y sioe. 

"Pan o’n i’n ffilmo fe oedd e’n teimlo fel oedd e’n gyfrinach byswn i’n cael am byth."

"A nawr ni gallu rhannu'r gyfrinach gyda phawb, mae mor exciting." 

Gyda thri actor o Gymru ar set, dywedodd y criw y cafodd y Gymraeg ei defnyddio’n aml wrth ffilmio’r rhaglen yn Seland Newydd.

“O’n i’n methu coelio’r peth," meddai Owain. 

“Mae na dri o ni allan yn Seland Newydd yn y sioe ma, mae na dri o ni yna yn siarad Cymraeg ac yn actio.”

“Dwi ddim yn meddwl naeth hynny byth digwydd i mi eto.”

Ychwanegodd Morfydd: “Well mae’n anodd actiwali oherwydd mae Cymraeg ac Elvish mor debyg!”

Fe fydd y bennod gyntaf o The Rings of Power yn cael ei darlledu ar Amazon Prime ar 2 Medi. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.