Rhaglen ddogfen newydd yn dilyn cadeirydd lliwgar clwb y Seintiau Newydd

mike harris.jpg

Fe fydd rhaglen ddogfen newydd yn dilyn cadeirydd clwb pêl-droed y Seintiau Newydd yn ystod y tymor diwethaf a'u taith ddramatig i gymhwyso i Gynghrair Cyngres UEFA.

Mae Mike Harris wedi bod yn gadeirydd ar y clwb ers 2003.

Ef hefyd oedd sylfaenydd Total Network Solutions, a gafodd ei brynu gan British Telecom yn 2005. 

Mewn rhaglen ddogfen newydd a fydd yn cael ei darlledu ar Amazon Prime, Apple TV a Google Play, fe fydd gwylwyr yn cael mynediad tu ôl i'r llen i hynt a helyntion y clwb, a hynny drwy lygaid y cadeirydd.

Fe gafodd y rhaglen ei ffilmio drwy gydol 2024, ac mae'n dilyn y clwb yn ystod eu hymgyrch heb golli yn y gynghrair a'u llwyddiant wrth sicrhau eu lle yn Ewrop. 

Mewn fideo a gafodd ei ryddhau ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn yn rhoi cipolwg o'r rhaglen, mae Harris yn dweud fod bod yn y rôl yn "eich gwneud chi'n wydn, yn eich gorfodi chi i gymryd cyfrifoldeb a mae'n rhaid i chi ddelio gyda'r canlyniad, boed hwnnw yn un da neu ddrwg."

Fe enillodd y Seintiau Newydd y trebl domestig am y tro cyntaf mewn degawd, drwy ennill y Gynghrair, Cwpan Cymru a Chwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf. 

Fe gollodd y clwb yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA y tymor diwethaf, a hynny o 2-0 yn erbyn Differdange Lwcsembwrg ar gyfanswm goliau.

Mae'r Seintiau ar frig y gynghrair yn y tymor hyd yma, gyda 47 o bwyntiau, saith pwynt ar y blaen i Gei Gonnah.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.