Llifogydd Pacistan: Apêl i helpu miliynau ar draws y wlad
Llifogydd Pacistan: Apêl i helpu miliynau ar draws y wlad
Mae DEC Cymru wedi cyhoeddi Apêl Llifogydd Pacistan er mwyn helpu miliynau sydd angen cymorth yn y wlad.
Ar hyn o bryd, mae traean o'r wlad, sy'n gyfystyr â'r Deyrnas Unedig, o dan ddŵr gyda mwy na un miliwn o gartrefi wedi eu difrodi neu eu dinistrio.
Mae mwy na 1,100 o bobl wedi eu lladd gyda 6 miliwn angen cymorth dyngarol brys.
Mae sawl asiantaeth dyngarol ar lawr gwlad yn y wlad, gan gynnwys Islamic Relief ac Achub y Plant, ac maent eisioes wedi datgan bod angen mwy o arian er mwyn darparu dŵr yfed glân a lloches i bobl.
Gyda un ymhob saith o bobl Pacistan wedi eu heffeithio, bwriad yr ymdrech ddyngarol ydy achub bywydau a chreu lloches dros dro.
Mae gan Aleena Khan deulu estynedig a ffrindiau sy'n byw yn y wlad, a dywedodd bod yr apêl yma yn "rili bwysig i'r pobl ym Mhacistan.
"Ma lot o'r isadeiledd 'di torri, ma' tai 'di cal'u dinistrio a ma' lot o pobl jyst yn byw ar strydoedd neu mewn camps."
Ychwanegodd Aleena bod angen i lywodraethau ar draws y byd wneud mwy yn sgil yr argyfwng ym Mhacistan.
"Dwi ddim yn teimlo bod ma' llywodraethe o gwmpas y byd yn gwneud digon i ymateb i'r probleme yma sydd yn digwydd yn y gwledydd 'Global South' oherwydd un o'r pethe' ma' lot o bobl 'di bod yn sôn am ydy'r ffaith bod y llifogydd gwaeth nag arferol yma 'di digwydd oherwydd cynhesu byd eang.
"Ma cynhesu byd eang yn cael ei creu gan gwledydd yn y 'Global North' felly mae ganddon nhw lot o responsibility i ceisio ymateb i trychinebe sydd yn digwydd o ganlyniad i ymddygiade nhw."
Yn ffodus, mae llawer o deulu Aleena wedi eu lleoli yng ngogledd y wlad tra mai'r de a'r gorllewin ydy'r llefydd sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan y llifogydd.
Er hyn, dywedodd bod yr argyfwng yn "ofnus i meddwl bod hwn yn digwydd i pobl fel fi a chi."
Dywedodd Prif Weithredwr DEC, Saleh Saeed, mai "ein blaenoriaeth nawr yw helpu i achub ac i ddiogelu bywydau wrth i lefelau y dŵr barhau i godi.
"Mae graddfa y llifogydd yma wedi creu dinistr ar lefelau brawychus – mae cnydau wedi ei boddi a da byw wedi eu lladd ar draws ardaloedd eang o’r wlad, sy’n golygu y gall hyn ddilyn at ddiffyg bwyd."
Ychwanegodd , Prif Weithredwr Islamic Relief Worldwide sy’n aelod o DEC, Waseem Ahmad, ei fod "wedi cwrdd â chymaint o deuluoedd a orfodwyd i ffoi am eu bywydau munudau cyn i’r llifogydd daro ac maent erbyn hyn wedi colli popeth – eu cartrefi wedi eu chwalu, eu da byw wedi ei lladd a’u cnydau wedi’u difrodi.
"Dydyn nhw ddim yn gwybod sut maen nhw yn mynd i fwydo eu hunain a’u plant.”