Newyddion S4C

Ymgyrchwyr yn poeni am gynllun i ddatblygu parc gwyliau ar Ynys Môn

Newyddion S4C 31/08/2022

Ymgyrchwyr yn poeni am gynllun i ddatblygu parc gwyliau ar Ynys Môn

Mae ymgyrchwyr ym Môn yn galw ar gwmni sydd am ddatblygu parc gwyliau ger Caergybi i wyrdroi eu penderfyniad.

Mae cwmni Land and Lakes wedi cyflwyno cais cynllunio ers 2012 i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos gan ddweud y byddai’n denu bron i 500 o swyddi i’r ardal.

Ond gyda’r safle, sy’n gyfuniad o goedwigoedd ac yn hafan i fywyd gwyllt guro gwobr Hoff Barc y Deyrnas Unedig gan sefydliad Fields in Trust, mae galw o’r newydd i ‘achub’ y safle rhag cael ei ddatblygu.

Yn ôl cwmni Land and Lakes sy’n berchen ar y tir, mi fyddai unrhyw bentref gwyliau yn gweddu gyda natur yr ardal gan fynnu nad oedd cynllun i dorri 28 acer o goed, fel sydd wedi ei honni.

Yn 2016, fe dderbyniodd cynlluniau’r cwmni ganiatâd amlinellol gan Gyngor Môn sy’n cynnwys bwriad i godi 500 o unedau gwyliau a phwll nofio trofannol.

Fel rhan o’r cais cynllunio gwreiddiol, mae’r cwmni wedi honni y byddai hyd at £30m yn cael ei fuddsoddi i’r economi leol.

'Cartref i nifer o rywiogaethau'

Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu na ddylai unrhyw waith fwrw mlaen ym Mhenrhos gan ei fod yn le poblogaidd i bobl ymweld, ac yn gartref i nifer o rywiogaethau gan gynnwys y Wiwer Goch.

Mae’r safle yn ymestyn ar draws 200 o aceri ac yn ôl y cwmni mi fyddai 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd eu mwynhau.

Ond i deulu Jenny Jones sy’n byw gerllaw, mae achub y parc rhag y pentref gwyliau yn flaenoriaeth.

“Dwi’n meddwl ei fod o’n warthus”, medd y fam i ddau.

“’Da ni fel teulu yn mwynhau dod i Benrhos a fel da chi’n gweld mae na lot o deuluoedd yn mwynhau.

“Dio’m yn lle i barc gwyliau, mae’n lle i deuluoedd cael dod yma i fwynhau ac yn lle i natur."

Yn ôl Ms Jones, gan nad oes gan y teulu ardd i’r plant chwarae, dyma’r unig le mae’r plant yn "teimlo’n rhydd".

Yn ôl sefydliad y Woodland Trust, mae’r parc yn denu tua 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda chyfoeth o goed, anifeiliaid a blodau yn tyfu yno.

Mae gan nifer gysylltiad personol gyda’r safle, gan gynnwys Glyn Jones sy’n dod yma’n aml.

“Fyddwni’n arfer dod yma’n rheolaidd gyda fy niweddar wraig a fyddai’n dal i ddod yma yn rheolaidd ac eistedd yma i gael heddwch meddwl.

“Mae’n le mor braf, os ‘da chi ar ben eich hun neu mewn gang, ma’n le mor hyfryd ac i’r cwbl gael ei chwalu o bosib.”

Yn ôl sefydliad Fields in Trust, fe ddaeth Penrhos i’r brig yng nghystadleuaeth Hoff Barc y Deyrnas Unedig ‘gan ei fod yn le arbennig i nifer’.

Gobaith y cwmni ydy creu hyd at 500 o swyddi er mwyn buddsoddi yn yr economi leol.

'Lle mor bwysig'

Ond yn ôl y Cynghorydd Tref dros Gaergybi, Vaughan Williams, ni ddylai swyddi ddod ar draul ardal o’r fath.

“Mae’r lle mor bwysig i ni yng Nghaergybi am sawl rheswm”, meddai.

“Sa’r syniad o ddymchwel y lle yn wrthun i mi, mae pawb o blaid swyddi ond nid cael gwared ar le fel hyn ydi’r ateb chwaith”.

Gan mai dim ond caniatâd cynllunio amlinellol sydd wedi ei ryddhau a hynny’n golygu y byddai angen archwiliadau pellach, doedd Cyngor Môn ddim am wneud sylw ar y mater.

Ond yn ôl llefarydd ar ran Land and Lakes mae “cynaliadwyedd y parc yn flaenoriaeth” a byddai “unrhyw barc gwyliau yn amgylcheddol sensitif” ac wedi ei gynllunio er mwyn dangos bywyd gwyllt yr ardal.

“Mi fyddai unrhyw ddatblygiad yn digwydd dan arweiniad arbenigwyr amgylcheddol ac yn parchu yr amgylchedd”.

Mae rhai ymgyrchwyr wedi honni y byddai ardal o 28 o aceri o goed yn cael eu dymchwel wrth wneud lle ar gyfer parc o’r fath.

Ond yn ôl Land and Lakes, “does dim cynllun o’r fath na chwaith i gau y safle i’r cyhoedd.

“Er bod y safle dan berchnogaeth breifat, rydym wedi ymrwymo i gadw 73 acer o’r ardal hyfryd a llwybrau i’r cyhoedd”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.