David Brooks yn chwarae ei gêm gyntaf ers derbyn triniaeth canser
31/08/2022
Bydd David Brooks yn chwarae ei gêm gyntaf ers derbyn triniaeth am ganser lymphoma ddydd Mercher.
Cafodd Brooks ddiagnosis ym mis Hydref 2021 pan oedd yn chwarae i Gymru.
Ers y diagnosis, mae Brooks wedi bod yn derbyn triniaeth a chyhoeddodd ei fod yn rhydd o ganser ddechrau fis Mai.
Bydd Brooks yn chwarae ei gêm gyntaf ers deg mis ddydd Mercher pan fydd tîm dan 21 Bournemouth yn chwarae yn erbyn Brentford.
Mae hyfforddwr Cymru, Rob Page, wedi dweud mae'n bosib bydd Brooks yn rhan o'r garfan ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Tachwedd, ond ni fydd yn brysio Brooks i ddychwelyd i'r garfan.