Cwest yn dyfarnu i Hefin David ladd ei hun

Hefin David.jpg

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad a manylion a allai beri gofid.  

Hunanladdiad oedd achos marwolaeth y gwleidydd Llafur Hefin David, yn ôl casgliadau crwner. 

Cafodd Mr David ei ddarganfod yn farw yn ei gartref ar 12 Awst y llynedd.

Roedd yn 47 oed ac wedi cynrychioli Caerffili yn y Senedd ym Mae Caerdydd ers 2016. 

Wrth ystyried amgylchiadau ei farwolaeth, daeth yr uwch grwner Caroline Saunders i'r casgliad iddo ladd ei hun "drwy grogi" yn ei gartref.  

Wrth agor y cwest yn Llys y Crwner Gwent, clywyd mai chwaer Hefin David a wnaeth anabod ei gorff, a hynny ddiwrnod cyn ei ben-blwydd.  

Tra'n siarad yn y Senedd wedi marwolaeth Mr David, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei fod yn "fod dynol rhyfeddol."   

Ychwanegodd ei bod yn cydymdeimlo â'i bartner Vikki Howells, Aelod y Senedd dros Gwm Cynon, a'r Gweinidog Addysg Uwch yn Llywodraeth Cymru.  

Rhoddodd Pirf Weinidog y Deyrnas Unedig Syr Keir Starmer deyrnged i Mr David hefyd, gan ei ddisgrifio yn "llais grymus ar gyfer pobl Cymru."  

Os ydy'r erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan S4C Cymorth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.