Enwi dau berson a fu farw yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ yn y de
Mae dau berson a fu farw yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ yn ne Cymru wedi eu henwi.
Bu farw Marlene Mumford, 84 oed, a William Mumford, 90 oed, mewn tân mewn tŷ ar Heol Fawr, Nelson, ar 12 Rhagfyr.
Wrth i gwestau’r ddau gael eu hagor yn Llys y Crwner Gwent ddydd Llun, clywodd y llys fod Mr Mumford, oedd yn gyn löwr, wedi ei ddarganfod wrth ymyl Mrs Mumford, oedd yn gyn weithiwr ffatri, pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ.
Dywedodd yr Uwch Grwner Caroline Saunders mai cyswllt gyda chynhyrchion hylosgi tân ('combustion products of fire'), oedd achos marwolaethau'r ddau.
Mae ymchwiliadau yn parhau ac fe fydd cwestau llawn i'w marwolaethau yn cael eu cynnal ar 7 Hydref.
Dywedodd Ms Saunders: “Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw amgylchiadau amheus nac unrhyw amheuaeth o weithgaredd trydydd parti.”
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ymateb i dân yn y tŷ ar 12 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad yn yr ardd.
Roedd Mr a Mrs Mumford wedi marw yn y fan a’r lle.
Llun: PA