Disgwyl penderfyniad ar bensiwn Neil Foden yn 'fuan iawn' medd Ysgrifennydd Addysg
Disgwyl penderfyniad ar bensiwn Neil Foden yn 'fuan iawn' medd Ysgrifennydd Addysg
Mae Ysgrifennydd Addysg y DU wedi dweud bod disgwyl penderfyniad am bensiwn y pedoffeil Neil Foden “yn fuan iawn, iawn”.
Daw ei sylw wedi i Newyddion S4C ddatgelu bod Neil Foden wedi cadw’r hawl i dderbyn ei bensiwn prifathro ers cael ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn pedair merch.
Roedd yr Ysgrifennydd Addysg Bridget Phillipson yn ateb cwestiwn yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn Llun gan AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf 2024, ar ôl ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau yn ei erbyn.
Fe wnaeth ymddiswyddo o'i waith fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor wythnos ar ôl i'w achos llys ddechrau.
Roedd hefyd yn arfer bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn Llun dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae dioddefwyr y pedoffeil Neil Foden, cyn-bennaeth Ysgol Friars, yn gandryll ei fod yn dal i dderbyn ei bensiwn er ei fod yn y carchar.
“Mae'r panel fforffedu wedi cyfarfod, maen nhw wedi dod i gasgliad, pryd fydd y casgliad hwnnw'n cael ei gyhoeddi ynghylch a yw'n parhau i dderbyn y pensiwn?” gofynnodd.
Fe atebodd yr Ysgrifennydd Addysg: “Mr Llefarydd, rwy'n disgwyl i hynny ddigwydd yn gyflym iawn, iawn.”
"Ffiaidd"
Dywedodd Liz Saville Roberts yn ddiweddarach wrth Newyddion S4C ei bod hi'n hyderus y bydd penderfyniad yn fuan: "Mae'n ffiaidd o beth ei fod yn parhau i gael pensiwn gan ei waith o fel athro. Mae sefyllfaoedd tebyg gydag athrawon ond hefyd gyda'r heddlu, gyda meddygon, lle oedd bobl mewn sefyllfa o ymddiriedaeth wedi colli eu pensiwn.
"'Dw i'n hyderus bod yna benderfyniad ar y ffordd a 'dw i'n taer obeithio mai'r penderfyniaf fydd tynnu'r agwedd cyhoeddus o'i bensiwn o," meddai.
Ychwanegodd Liz Saville Roberts bod angen gweithredu ar frys: "'Dw i'n erfyn arnyn nhw i 'neud y penderfyniad cyn gynted ag sy'n bosib. Mae dioddefwyr Foden yn gwybod fod e yn y carchar, ma' nhw'n gwybod ei fod e wedi bod yn derbyn ei bensiwn yn llawn ers iddo fe gael ei garcharu. 'Dw i'n siwr eu bod nhw yn ffieiddio i glywed hynny. Mae'n hen bryd i'r penderfyniad gael ei 'neud ac i gael ei gyhoeddi," meddai.
“Gan fod pensiwn athrawon yn fater i Lywodraeth San Steffan, rwyf wedi codi fy mhryderon am hyn gyda’r Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts a rwyf yn hynod ddiolchgar am ei gwaith a’i dygnwch wrth dynnu sylw’r Llywodraeth i’r mater yma.
"Mawr obeithiaf y bydd yn llwyddiannus yn stopio’r pedoffeil erchyll yma rhag derbyn ei bensiwn yn syth ac y bydd yn gorfod talu pob ceiniog mae o wedi ei dderbyn yn ôl.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Nid oes gan Gyngor Gwynedd unrhyw beth i’w wneud gyda phensiwn Neil Foden.
"Mae pensiwn athrawon yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan ac rydym wedi rhoi gwybod iddynt am y troseddau difrifol y cafwyd ef yn euog ohonynt a’i ddedfryd i garchar.”