Tariffau Trump: Pryder am effaith 'anghymesur' ar Gymru
Tariffau Trump: Pryder am effaith 'anghymesur' ar Gymru
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddai tariffau economaidd Donald Trump yn effeithio ar Gymru mewn modd “anghymesur.”
Mae’r Farwnes Eluned Morgan bellach wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, i fynegi ei phryderon am fygythiadau Arlywydd America.
Daw wedi i Trump gyhoeddi y byddai’n codi tariffau economaidd ar y DU a gwledydd eraill yn Ewrop sy'n gwrthwynebu ei fwriad i’r Unol Daleithiau brynu’r Ynys Las.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae mwy na 1,000 o fusnesau yn y wlad yn allforio nwyddau i’r Unol Daleithiau.
Dywedodd Y Farwnes Morgan: “Mae pobl ledled Cymru eisoes yn wynebu trafferthion yn sgil yr argyfwng costau byw – byddai tariffau uwch yn rhoi rhagor o bwysau ar fusnesau Cymru.
“Rwyf wedi ysgrifennu at Syr Keir Starmer i nodi y gallai'r tariffau ychwanegol effeithio'n anghymesur ar Gymru, a fyddai’n profi’n heriol i lawer o fusnesau Cymru.
“Mae swyddi yng Nghymru yn y fantol, ac fel Prif Weinidog byddaf yn eu hamddiffyn nhw hyd yr eithaf.”
Ychwanegodd ei bod yn cydnabod pwysigrwydd America i’r economi yng Nghymru.
Dywedodd bod tua 330 o fusnesau o’r Unol Daleithiau yng Nghymru, a'u bod yn cyflogi dros 40,000 o bobl.