Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi ymosodiad honedig mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog
Cyhoeddodd Heddlu'r Gogledd fod dyn 35 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn diwethaf, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, wrth i'r llu "gael cyngor yn ymwneud â chyhuddiadau."
Cafodd ei arestio wedi adroddiadau am ymosodiad honedig yn ystod y gêm rhwng Porthmadog a Bae Trearddur.
Nos Sul dywedodd CPD Bae Trearddur eu bod nhw wedi gwahardd chwaraewr o'r enw Tom Taylor o’r clwb mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Iwan Jones mewn datganiad ddydd Llun: "Rwy'n ymwybodol o ddeunydd fideo o'r digwyddiad, ac rwy'n diolch i aelodau'r cyhoedd am gysylltu â ni. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r dioddefwr.
"Rydym bellach yn apelio ar yr unigolyn a ffilmiodd y darn fideo i gysylltu â ni er mwyn i ni gael datganiad tystiolaeth er mwyn i ni gynnwys hynny yn swyddogol yn y ddogfen ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron.
"Hefyd, rydw i'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, sydd heb siarad â ni eisoes, i gysylltu â ni.
"Yn olaf, neges i atgoffa unigolion fod hwn yn achos gweithredol, bod rhannu gwybodaeth, neu ddyfalu am faterion yn ymwneud â'r gyfraith yn medru arwain at oblygiadau cyfreithiol.
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad gysylltu â'r heddlu drwy ein gwefan neu drwy ein ffonio ar 101 a dyfynnu'r rhif 26000046180."
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n ymddangos fel petai chwaraewr Bae Trearddur yn defnyddio'i benelin i daro wyneb chwaraewr Porthmadog yn ystod y gêm.
Enillodd Porthmadog y gêm o 3-2.
Dioddefodd chwaraewr Porthmadog, Danny Brookwell gyfergyd o ganlyniad i'r ymosodiad honedig a ddigwyddodd wrth i Borthmadog gymryd cic o'r smotyn, meddai'r clwb.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth Newyddion S4C eu bod "yn ymwybodol o'r digwyddiad honedig a byddant yn ymchwilio i'r mater".
'Gwahardd'
Dywedodd clwb CPD Bae Trearddur nos Sul: “Yn dilyn cyfarfod cyffredinol eithriadol o bwyllgor y clwb a chwblhau prosesau mewnol y clwb, mae Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y digwyddiad ar y cae yn erbyn Clwb Pêl-droed Porthmadog.
“Yn dilyn adolygiad mewnol, penderfynwyd rhyddhau'r chwaraewr gwaharddedig dan sylw ar unwaith.
“Nid yw Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn goddef trais o unrhyw fath ac yn cydnabod na ddylai'r digwyddiad fod wedi digwydd.
“Mae'r clwb yn cynnig ei ymddiheuriadau diffuant i'r chwaraewr arall dan sylw, Clwb Pêl-droed Porthmadog, swyddogion y gêm, cefnogwyr, a'r gymuned bêl-droed ehangach.
“Bydd y clwb yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau allanol neu brosesau disgyblu ac ni fydd yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd tra bod y materion hyn yn parhau.”
Yn gynharach brynhawn ddydd Sul dywedodd y clwb eu bod nhw wedi gwahardd un o’u chwaraewyr ac wedi ei enwi.
Dywedodd y clwb: “Mae Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn dymuno cadarnhau ei fod wedi gwahardd Tom Taylor ar unwaith yn dilyn digwyddiad rhwng Clwb Pêl-droed Bae Trearddur a Phorthmadog ddoe."
'Siom'
Dywedodd CPD Porthmadog wrth Newyddion S4C eu bod wedi'u "siomi" gyda'r digwyddiad.
"Yn dilyn y digwyddiad yn Y Traeth brynhawn ddydd Sadwrn, sydd wedi cael ei ddogfennu'n dda ar amryw o gyfryngau cymdeithasol, hoffai'r clwb bwysleisio mai ei brif bryder yw lles a diogelwch ein chwaraewr Danny Brookwell.
"Cafodd Danny gyfergyd ac ar ôl triniaeth bu'n rhaid iddo adael y cae chwarae. Ein dealltwriaeth ni yw ei fod yn gwella gartref.
"Hoffai'r clwb fynegi ei siom bod y digwyddiad hwn wedi digwydd o gwbl.
"Bwriad y clwb yw gadael i'r awdurdodau priodol ddelio â'r mater ac ymddiried y bydd y camau cywir yn cael eu gwneud a'n bod ni ddim yn gweld golygfa mor erchyll eto."
"Yn olaf, neges i atgoffa unigolion fod hwn yn achos gweithredol, bod rhannu gwybodaeth, neu dyfalu am faterion yn ymwued â'r gyfraith yn medru arwain at oblygiadau cyfreithiol.
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad gystylltu â'r heddlu drwy ein gwefan nei drwy ein ffonio ar 101 a dyfynnu'r rhif 26000046180."