Lladron wedi torri mewn i ganolfan fwyd gymunedol
Mae pobl wedi torri mewn i ganolfan fwyd gymunedol yng Nghwmbrân.
Roedd canolfan Tasty not Wasty wedi dioddef y lladrad nos Lun 29 Awst.
Mewn datganiad, fe ddywedodd y ganolfan fod "bwyd wedi ei ddwyn o'r oergell ac roedd y lladron wedi gwneud llanast ar hyd y lle."
Fe gyhoeddodd y ganolfan ar eu cyfrif Facebook bod y digwyddiad wedi bod yn "hynod o drist" iddynt, a'u bod wedi gorfod cau ddydd Mawrth a dydd Mercher.
O ganlyniad i'r lladrad, mae holl fwyd y ganolfan wedi gorfod cael ei daflu, gan nad oedd modd i bobl ei fwyta.
Mae'r ganolfan yn apelio am unrhyw un sydd â CCTV neu glip fideo o ardal Heol Llanyrafon rhwng 22:00 nos Lun a 08:00 bore Mawrth.
Llun: Tasty not Wasty/Facebook.