Caryl Parry Jones yn olynu Geraint Lloyd fel cyflwynydd y 'shifft hwyr' ar Radio Cymru
Mae'r BBC wedi cyhoeddi mai Caryl Parry Jones fydd yn olynu Geraint Lloyd fel cyflwynydd y "shifft hwyr" gyda'r nos ar Radio Cymru.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar raglen Aled Hughes ar yr orsaf fore dydd Mercher.
Bydd Caryl Parry Jones yn cyflwyno rhwng 21:00 a 00:00 bob nos Lun i nos Iau o 3 Hydref.
Mae'n golygu y bydd yn gadael y rhaglen frecwast ar Radio Cymru 2 - rhaglen y mae wedi ei chyflwyno ers lansio'r orsaf.
Fe gadarnhaodd y BBC yn gynharach ym mis Awst y byddai Geraint Lloyd yn gadael yr orsaf yn yr Hydref.
Fe wnaethon nhw ddiolch "yn fawr" i Geraint Lloyd a chyflwynwyr eraill sy'n gadael yr orsaf am eu cyfraniad.
Bydd Geth a Ger yn gorffen eu rhaglen ar nos Wener a rhaglen gelfyddydol Stiwdio gyda Nia Roberts hefyd yn dod i ben.
Daw'r newidiadau wrth i oriau darlledu Radio Cymru 2 gael eu hymestyn o 15 awr yr wythnos i fwy na 60 awr bob wythnos.