Dim cyflenwadau dŵr i holl gwsmeriaid Sir y Fflint 'tan ddydd Sul'
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro i gwsmeriaid yn Sir y Fflint, gan ddweud na fydd y cyflenwadau dŵr yn dychwelyd yn llawn tan ddydd Sul.
Mae’r trafferthion wedi codi wedi i bibell ddŵr fyrstio ym Mrychdyn, yn dilyn gwaith atgyweirio dros dro ddydd Sadwrn diwethaf.
Mewn datganiad bnawn Gwener, dywedodd y cwmni: "Bydd y gwaith atgyweirio i'r brif bibell ddŵr a dorrodd ym Mrychdyn, sy'n effeithio ar gyflenwadau i gwsmeriaid mewn rhannau o Sir y Fflint, yn cael ei gwblhau y prynhawn yma.
"Yna bydd angen i ni ail-lenwi'r rhwydwaith dŵr. Bydd hyn yn cymryd amser gan fod angen i ni osgoi achosi unrhyw doriadau eilaidd ar y rhwydwaith helaeth hwn sydd dros 500km o hyd.
"Mae hyn yn golygu y bydd yr aflonyddwch yn parhau dros y 48 awr nesaf wrth i'r rhwydwaith ail-lenwi'n raddol. Er ein bod yn anelu at adfer y rhan fwyaf o'r cyflenwadau i gwsmeriaid yfory, ni fydd cyflenwadau wedi'u hadfer yn llawn i bawb tan ddydd Sul."
Mae’r ardaloedd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Y Fflint, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llannerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.
Mae Dŵr Cymru wedi sefydlu gorsafoedd dŵr potel ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint, Safle Parcio a Theithio Shotwick ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a Maes Parcio Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug.
Bydd cwsmeriaid domestig yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod oddi ar y cyflenwad. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael taliad awtomatig o £75 am bob 12 awr a byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm.
