Ymosodwr Cymru Nathan Broadhead yn arwyddo i Wrecsam
Mae ymosodwr Cymru Nathan Broadhead wedi arwyddo i Wrecsam.
Mae Broadhead, 27, yn arwyddo o glwb Ipswich Town.
Mae Wrecsam wedi torri eu record yn y ffenestr drosglwyddo sawl gwaith yn barod ers i'r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb yn 2021.
Broadhead fydd y nawfed chwaraewyr y mae Wrecsam wedi ei arwyddo ers iddyn nhw sicrhau dyrchafiad o Adran Un y tymor diwethaf.
Bydd yn dilyn ei gyd-chwaraewyr gyda Chymru, Danny Ward a Kieffer Moore, sydd eisoes wedi ymuno â'r clwb dros yr haf.
Yn enedigol o Fangor, roedd Broadhead yn aelod o academi Wrecsam, ac fe ddechreuodd ei yrfa broffesiynol gydag Everton cyn ymuno ag Ipswich yn barhaol yn 2023 yn dilyn cyfnodau ar fenthyg gyda Burton Albion, Sunderland a Wigan Athletic.
Roedd yn rhan o dîm Ipswich a wnaeth sicrhau dyrchafiad o Adran Un i'r Bencampwriaeth, ac o'r Bencampwriaeth i Uwch Gynghrair Lloegr.