Canlyniadau Safon Uwch: Gostyngiad arall yn nifer y graddau A*-A

Disgyblion Coleg Merthyr Tudful yn derbyn eu canlyniadau
Disgyblion Coleg Merthyr Tudful yn derbyn canlyniadau Safon Uwch

Mae'r graddau uchaf ar gyfer canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Roedd canran y graddau A* ac A yn 29.5% eleni, sef gostyngiad bach o gymharu â 29.9% yn 2024, a gostyngiad o bron i 5% o gymharu â 2023 (34%). 

Er y gostyngiad, mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn cyfnod pandemig Covid-19, pan roedd canran y graddau A-A* yn 26.5%.

Fe gafodd y mwyafrif o fesurau ychwanegol a gafodd eu gosod i helpu disgyblion yn sgil effaith Covid-19 ar addysg eu gollwng y llynedd.

Mae canlyniadau Safon Uwch Cymru yn dangos bod 97.5% o fyfyrwyr wedi ennill graddau A* - E.

Enillodd 10.5% o ymgeiswyr radd A*, ac enillodd 29.5% raddau A*-A. 

Roedd cyfanswm y cofrestriadau am arholiadau Safon Uwch yng Nghymru eleni yn 31,791, o gymharu â 32,235 yn 2024.

Canlyniadau Safon Uwch, UG a Bagloriaeth Sgiliau Uwch     

  • Cafodd 31,791 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf yma
  • Roedd 10.5% o'r graddau Safon Uwch a gafodd eu cyhoeddi yn radd A*, 29.5% yn A* i A ac roedd 97.5% yn raddau A* i E
  • Ar gyfer unigolion 18 oed a safodd cymwysterau Safon Uwch CBAC, roedd 10.4% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 29.8% yn raddau A* i A a 97.8% yn raddau A* i E
  • Cafodd 39,930 o raddau UG eu dyfarnu yr haf yma
  • Roedd 22.7% o'r graddau UG a gafodd eu cyhoeddi yn radd A a 90.9% yn A i E
  • Ar gyfer unigolion 17 oed a safodd cymwysterau UG CBAC, roedd 22.9% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A a 90.3% yn raddau A i E 

Yn Lloegr, roedd canran y graddau A* ac A yn 28.2%, sydd yn gynnydd o'r llynedd (27.6%). 

Yng Ngogledd Iwerddon, roedd canran y graddau uchaf yn 30.4%, sef cynnydd o o.1% o'r llynedd (30.3%). 

Llwyddodd 9.4% yn Lloegr i sicrhau gradd A*, ac 8.7% yng Ngogledd Iwerddon.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan longyfarch pawb a oedd yn derbyn canlyniadau ddydd Iau.

'Carreg filltir'

Wrth longyfarch dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu canlyniadau heddiw a da iawn am yr holl waith rydych chi wedi'i wneud wrth gwblhau eich cymwysterau. 

"Mae canlyniadau'n garreg filltir fawr ym mywydau dysgwyr, a bydd llawer ohonoch yn edrych ymlaen at eich camau nesaf – boed hynny i waith, prentisiaeth, neu addysg uwch."

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i fyfyrwyr ledled Cymru wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau. 

"Dw i'n estyn fy llongyfarchiadau twymgalon i bob myfyriwr, yn ogystal â'n hathrawon a'n staff addysg ymroddedig, y mae eu hymrwymiad a'u hymdrech wedi dod â ni i'r foment hon.

"Wrth ichi edrych tua'r dyfodol, p'un a yw hynny'n golygu dechrau prentisiaeth, dechrau cyflogaeth, neu ddechrau astudio yn y brifysgol, dw i'n dymuno 'pob lwc' ichi."

Llun: Cowshed

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.