Teyrngedau i filwr o Wynedd a gafodd ei ddarganfod yn farw ar ôl mynd ar goll

Stephen Hughes

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i filwr o Wynedd a gafodd ei ddarganfod yn farw ar ôl iddo fynd ar goll.

Roedd Stephen Hughes yn 25 oed ac yn byw yn Llanberis. 

Roedd Mr Hughes yn un o sylfaenwyr Lads Advice, sef grŵp yn cynnig cefnogaeth a chymorth i ddynion gyda'i hiechyd meddwl. 

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Catrawd Y Cymry Brenhinol mewn datganiad: "Gyda chalom drom y mae'n rhaid i Fataliwn Cyntaf Y Cymry Brenhinol gadarnhau colled drasig Corporal Stephen Hughes, 25. 

"Roedd yn aelod yr oedd pawb yn ei garu o Blatŵn y Mortar ac mae'r golled yn cael ei theimlo yn fawr o fewn y Bataliwn a'r teulu Catrodol yn ehangach."

Mewn teyrnged iddo hefyd, dywedodd y grŵp Lads Advice: "Pan y gwnaethom ni glywed gyntaf ei fod ar goll, fe wnaeth cymaint ohonoch chi geisio helpu - gan rannu negeseuon, cysylltu â phobl, gwneud popeth a oedd yn bosib i helpu. Mae'r gofal yna yn dweud y cyfan o ran pa mor bwysig oedd ef.

"Roedd yn un o sylfaenwyr y tîm ac mae'n gadael bwlch enfawr. Mae'n calonnau ni wedi eu torri.  

"Cwsg yn dawel, Steve. Roeddet ti'n un o'r dynion mwyaf caredig ac annwyl. Fe fydd colled mawr ar dy ôl."

Fe ddywedodd Llu Cadéts Clwyd a Gwynedd: "Gyda thristwch mawr yr ydym ni'n dysgu o farwolaeth cyn-gadét Llanberis a Milwr Y Cymry Brenhinol, Stephen Hughes. 

"Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei deulu, ffrindiau a'i gyd-weithwyr yn ystod y cyfnod anodd yma. 

"Fe fydd ei wasanaeth a'i ymroddiad yn cael ei gofio gyda pharch a gwerthfawrogiad enfawr."

Am 20:30 ddydd Mawrth, bu Heddlu'r Gogledd yn chwilio am Mr Hughes wedi iddo fynd ar goll. 

Fe gadarnhaodd yr heddlu fod corff wedi ei godi o Afon Menai ychydig wedi 23:30 ar yr un noson. 

Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall: "Mae fy meddyliau efo teulu Stephen, sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion.

"Mae’r crwner wedi cael gwybod ac nid ydym yn credu bod amgylchiadau amheus."

Llun: Only Forces / Instagram



 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.